Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae Cymraeg yn iaith Geltaidd sydd ar flaen y gad o ran dulliau creadigol modern. Mae'r cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn llenyddiaeth ac iaith a chyfle i astudio cyfuniad o fodiwlau theatr, drama a'r cyfryngau. Byddwch yn meithrin eich doniau creadigol yng nghwmni rhai o brif ymarferwyr creadigol Cymru a dilyn llwybrau gyrfa yn y cyfryngau a'r theatr ond hefyd ym maes addysg. Os ydych â’ch bryd ar weithio ym maes theatr neu’r cyfryngau yn y dyfodol, bydd y cwrs hwn yn eich darparu â’r sgiliau angenrheidiol i fentro i’r maes yn broffesiynol.
Bydd y cwrs, nid yn unig yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn iaith a llenyddiaeth Gymraeg, ond yn rhoi cyfle hefyd i chi gyfuno elfennau creadigol, ymarferol ac academaidd ym maes theatr, drama a'r cyfryngau. Cewch feithrin eich doniau yng nghwmni rhai o brif ymarferwyr Cymru, rhai sy’n parhau i weithio’n broffesiynol yn y maes. Mae’r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes y celfyddydau, y cyfryngau a'r theatr neu ym myd addysg.
Yn ogystal â rhoi sylfaen gref i chi o ran iaith a llenyddiaeth Gymraeg bydd cyfle hefyd yn ystod y cwrs i ddysgu am amrywiol agweddau o’r theatr a’r cyfryngau fel meysydd celfyddydol. Bydd cyfle i ddysgu am agweddau damcaniaethol a hanesyddol y meysydd, megis hanes y ddrama Gymraeg, hanes y ddrama Ewropeaidd, y traddodiad o addasu ar gyfer y llwyfan, astudio gweithiau sgrin Cymraeg a’r traddodiad o ddarlledu ar gyfer y radio fel cyfrwng. Mae hefyd drawstoriad eang ar gael o fodiwlau sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr feithrin a datblygu sgiliau ymarferol yn y meysydd, megis sgiliau sgriptio (ar gyfer y teledu ac ar gyfer y llwyfan), sgiliau perfformio a chyfarwyddo yn ogystal â sgiliau cynhyrchu ar gyfer y llwyfan, y teledu a’r radio.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs hwn?
- Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, buddsoddiad o £50 miliwn.
- Astudio yng Ngwynedd, cartref sector deinamig o ran diwydiannau creadigol a chyfryngau Cymru.
- Cyfle i gydweithio ag ymarferwyr theatr a chyfryngau sy’n parhau i weithio yn y maes yn broffesiynol.
- Astudio gyda phrifeirdd a phrif lenorion, enillwyr gwobrau cenedlaethol a bri rhyngwladol.
- Fe’n cydnabyddir yn fyd-eang am ragoriaeth mewn ymarfer creadigol, ac astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Agwedd arbennig ar y cwrs hwn yw’r cyfle i fynychu gweithdai arbenigol a fydd yn eich arfogi â’r sgiliau pwrpasol i greu gwaith gwreiddiol eich hunain, boed hynny’n yn sgript ar gyfer y teledu neu’r llwyfan, yn gynhyrchiad llwyfan, yn ffilm fer, neu’n rhaglen radio.
Mae’r dysgu drwy gyfrwng gweithdai, darlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Mae'r asesiad yn gyfuniad o waith cwrs (e.e. gwaith ymarferol / creadigol, cyflwyniadau llafar, traethodau, a thasgau wythnosol) ac arholiadau, gyda rhai modiwlau wedi’u hasesu’n llwyr ar sail gwaith cwrs. Bydd eich modiwlau bob blwyddyn yn gyfwerth ag 120 credyd.
Mae’r flwyddyn gyntaf yn gyfle i adeiladu ar eich profiadau ac i agor drysau newydd, e.e. trafod yr iaith a’i chelfyddyd mewn cyd-destunau sy’n ymwneud â’i hanes a’i chyflwr heddiw, dysgu sgiliau beirniadol newydd, ymateb yn wreiddiol i weithiau celfyddydol a meithrin sgiliau ymarferol ym maes theatr a’r cyfryngau.
Yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn, cewch ddewis helaeth o fodiwlau damcaniaethol, megis ar y theatr Gymraeg o gyfnod Saunders Lewis hyd at Aled Jones Williams ac ar ddramâu teledu Meic Povey, yn ogystal â dewis eang o fodiwlau ymarferol megis sgriptio, dyfeisio cynhyrchiad llwyfan a chynhyrchu ffilm fer, i enwi ond rhai.
Yn y drydedd flwyddyn cewch lunio traethawd hir ac ymchwilio i bwnc diddorol o’ch dewis. Yn y gorffennol, mae nifer wedi dewis ymchwilio i feysydd megis gweithiau amrywiol ddramodwyr Cymraeg, hanes cwmnïau amatur Cymru ac addasiadau llwyfan a sgrin o weithiau llenyddol Cymraeg. Mae’r opsiynau’n ddiderfyn!
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Mae Canolfan Gelfyddydol Pontio yn adnodd hynod werthfawr i Brifysgol Bangor a’r dalgylch. Mae’n cynnwys gofodau proffesiynol pwrpasol o’r radd flaenaf i wylio perfformiadau byw neu gynyrchiadau ar sgrin yn ogystal â stiwdio berfformio bwrpasol lle bydd cyfle i fyfyrwyr lwyfannu perfformiadau.
- Mae adeilad John Phillips ar gampws y Brifysgol hefyd yn cynnwys: Neuadd John Phillips – gofod perfformio gyda chyfarpar sain a goleuo, stiwdio radio ac ystafell reoli gydag offer hunan-reoli, ystafelloedd golygu fideo a sain, camerâu amrywiol ar gyfer pob blwyddyn academaidd, e.e. Canon, JVC, offer sain ac offer goleuo amrywiol, ystafell cyfryngau digidol, meddalwedd megis Adobe Creative Cloud a Final Cut Pro.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwnc Dyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC**: MMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: MMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg**
- Access**: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
**Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Lefel A).
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwnc Dyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC**: DMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: DMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg**
- Access**: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
**Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Lefel A).
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Ni fu erioed adeg fwy cyffrous i astudio’r Gymraeg ym Mangor. Ni fu ychwaith gymaint o alw am weithlu a all ddefnyddio’r Gymraeg ar lefelau proffesiynol uwch. Mae’r nod yn glir, y mae wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru – miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a Chymru ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair.
Wrth anelu am y nod hwnnw bydd angen mawr am raddedigion hyderus eu Cymraeg, rhai fydd yn gallu defnyddio eu sgiliau iaith mewn ffyrdd hyblyg, rhai fydd yn gallu meddwl yn ddadansoddol drwy gyfrwng yr iaith a’i defnyddio – ar lafar ac yn ysgrifenedig – mewn sefyllfaoedd gwaith amrywiol.
Mae llwyddiant proffesiynol rhyfeddol ein myfyrwyr ym maes gwaith – a’u gyrfaoedd amrywiol – eisoes yn profi pa mor gwbl berthnasol yw’r cwrs hwn i ofynion y Gymru gyfoes. Mae cyfran ohonynt yn cael eu denu i fyd addysg, i fod yn athrawon cynradd ac uwchradd, yn brifathrawon, yn swyddogion addysg ac yn gyfarwyddwyr addysg. Aeth eraill i fyd addysg bellach ac i fod yn ddarlithwyr mewn prifysgolion. Mae dysgu Cymraeg i oedolion hefyd yn faes allweddol. Mae’r byd teledu a’r cyfryngau digidol, theatr a phrint – gan gynnwys canolfan y BBC ym Mangor a Chanolfan Gelfyddydol Pontio – yn cynnig trawstoriad o swyddi diddorol a denwyd cyn-fyfyrwyr eraill at faes cyhoeddi llyfrau, ysgrifennu creadigol a sgriptio teledu, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Mae’r galw yn parhau hefyd am weinyddwyr a swyddogion dwyieithog ar gyfer llywodraeth leol. A heb bresenoldeb graddedigion Cymraeg Bangor byddai’r diwydiant cyfieithu yn un pur wahanol. Ac mae gan raddedigion y cyfnod presennol hefyd bob hawl i anelu’n uchel. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Y Theatr Gymraeg Genedlaethol, Cwmni Da (un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf Cymru), Gwasanaeth Cofnodi a Chyfieithu Senedd Cymru a Chyngor Ynys Môn – beth sy’n gyffredin rhyngddynt? Mae graddedigion Cymraeg Bangor wedi cyrraedd brig eu gyrfaoedd proffesiynol ynddynt ac wrth y llyw ym mhob un ohonynt!
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Cymraeg i Ddechreuwyr.
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.