Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae cysylltiad clos rhwng Cerddoriaeth a Ffilm ers dechrau sinema a byddwch yn gallu archwilio'r cysylltiadau rhwng y ddwy ddisgyblaeth greadigol. Byddwch yn rhan o gymuned gerddorol fywiog, yn perfformio neu'n mwynhau perfformiadau mewn mannau cyhoeddus a byddwch yn elwa o'r cysylltiadau clos sydd gan Fangor â'r astudiaethau ffilm lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a chymunedau gwneuthurwyr cyfryngau yn UDA, Awstralasia ac Ewrop. Fel myfyriwr graddedig gydag arbenigeddau mewn Cerddoriaeth a Ffilm, bydd gennych arfogaeth at amrywiol yrfaoedd proffesiynol.
Mae Astudio Cerddoriaeth yn gyfle creadigol i dyfu fel cerddor, a hynny o dan arweiniad cyfansoddwyr, perfformwyr, cerddolegwyr ac ymchwilwyr o fri rhyngwladol. Byddwch yn perfformio neu'n mynychu perfformiadau mewn canolfannau cyhoeddus fel Pontio a Neuadd odidog Prichard Jones. Bydd eich profiad cerddorol yn ymestyn y tu hwnt i'r ddarlithfa a bydd cyfleoedd i ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol, Côr Siambr ac amryw o gymdeithasau cerddorol eraill y myfyrwyr, megis Opera, Band Cyngerdd, Troelli Recordiau, Theatr Gerdd a Cherddorfa Linynnol. Cewch fanteisio hefyd ar y cysylltiadau rhagorol sydd gan Fangor â sefydliadau sy’n flaenllaw yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Cymru'r BBC, y mae gennym weithdy cyfansoddi blynyddol gyda nhw.
Mae Astudiaethau Ffilm yn cyfuno gwaith ac ymarfer beirniadol a chreadigol. Mae gan y darlithwyr ddiddordebau amrywiol gan gynnwys Sinema America, ffilmiau Prydain ac Ewrop, Siapan a sinemâu eraill y byd, rhywedd, diwylliant gweledol, fideos cerddorol, dadansoddi ffilmiau, y corff a ffilm, ffilm a hanes, technoleg ddigidol a ffilm, sgriptio ac ysgrifennu i’r sgrin, gwneud ffilmiau, y cyfryngau a ffilm yng Nghymru, actio a pherfformio, iaith a ffilm, blogio a phodledu, gemau cyfrifiadurol a ffilm, sêr ffilm a ffilm ar y teledu.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Strwythur y radd yn hyblyg i deilwra'r cwrs i'ch diddordebau a'ch cryfderau.
- Canolfan Gyfryngau a chyfarpar cwbl bwrpasol, ystafelloedd golygu, ystafelloedd cyfryngau newydd, stiwdios cynhyrchu ac offer cyfryngau/ffilm ar gael i'r myfyrwyr.
- Cymuned ddeinamig o ran creu cerddoriaeth: corau, cerddorfeydd, bandiau, ensembles y myfyrwyr a Chymdeithas Gerdd Prifysgol Bangor.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae rhaglen gradd Cerddoriaeth a Ffilm Bangor yn hyblyg. Byddwch chi'n siapio'ch cwrs gradd yn ôl eich diddordebau a'ch cryfderau. Dysgir ein cyrsiau gan staff o fri rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i'ch helpu chi ddatblygu gwybodaeth bwnc-benodol, ac mi gewch chi ryddid i ddarganfod ac archwilio'ch diddordebau eich hun. Byddwch chi'n dysgu mewn grwpiau bach, a chaiff y rhan fwyaf o’r modiwlau eu cyflwyno trwy weithdai a seminarau wythnosol.
Byddwch yn dechrau astudio Cerddoriaeth yn ei holl agweddau, trwy theori ac ymarfer cerddorol gan gynnwys polyffoni moddol a chyfansoddi electroacwstig. Byddwch yn defnyddio'r fframwaith eang hwnnw’n fan cychwyn i ddatblygu eich arbenigedd eich hun mewn un o nifer o feysydd megis cerddoleg, perfformio neu gyfansoddi, gan gynnwys cerddoriaeth yr 20fed ganrif, perfformio clasurol, cerddoriaeth ym maes iechyd a lles, a phob arddull gyfansoddi. Mae gennych yr opsiwn o ddewis Perfformio Unigol, a ddysgir trwy gyfuniad arloesol o hyfforddiant unigol, gweithdai a dosbarthiadau meistr. Byddwch hefyd yn treulio amser ar ddarllen cefndirol, gwrando ar gerddoriaeth, cwblhau traethodau a gwaith cwrs yn ogystal â rihyrsio a pherfformio mewn ensembles, corau a cherddorfeydd. Bydd sawl modiwl yn cynnwys ymweliadau â theatrau, cyngherddau, stiwdios recordio a gweithdai cyfansoddi.
Mae Astudiaethau Ffilm ym Mangor yn cynnig cymysgedd o dasgau ymarferol a dadansoddol, a phwyslais ar ddysgu sgiliau gwaith grŵp a gallu cyflawni darn o waith trosooch chi'ch hun o'r cysyniad cychwynnol hyd at ei gwblhau. Mae modiwlau Ymarfer y Cyfryngau yn canolbwyntio ar dri maes allweddol: cynhyrchu yn y stiwdio, ffilmio gyda chamera sengl a golygu, a chynhyrchu i’r radio. Caiff modiwlau ymarferol eu hasesu ar yr allbwn ymarferol ac ar allu'r unigolyn i adfyfyrio'n feirniadol ar eu hymarfer. Asesir modiwlau ar theori ffilm, ffilm a diwylliant, diwylliant gweledol, dadansoddi ffilm a rhaglenni dogfen trwy arholiadau ac aseiniadau ac yn aml maent hefyd yn cynnig cyfle i gyflwyno gwaith ymarferol fel rhan o'r asesu.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cerddoriaeth a Ffilm BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cerddoriaeth
- Dau adeilad Cerddoriaeth pwrpasol.
- Dwy neuadd gyngerdd safonol broffesiynol.
- Mannau ymarfer.
- Ystafelloedd ymarfer gyda mynediad 24 awr.
- Offerynnau gan gynnwys organ maint llawn, organ siambr, harpsicordiau a phianos traws.
- Pedair stiwdio cyfansoddi a recordio electroacwstig o'r radd flaenaf, gyda mynediad 24 awr.
- Mynediad i fannau perfformio ac ymarfer yng nghanolfan gelfyddydau ysblennydd Pontio.
- Gwasanaeth benthyciadau helaeth ar gyfer offer fel cyfarpar recordio digidol, camerâu fideo, camerâu lluniau llonydd a mwy.
- Stiwdio radio â chyfarpar proffesiynol.
- Ystafelloedd golygu sain gydag Adobe Audition.
- Ystafelloedd golygu fideo digidol gyda Final Cut Pro a Final Cut Express ar gyfrifiaduron Apple Mac.
- Awditoria.
- Pontio, canolfan y celfyddydau ac arloesi, sy'n cynnwys sinema 200 sedd gyda system sain amgylchynol Dolby.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae angen medru darllen hen nodiant i wneud unrhyw un o'r cyrsiau Cerddoriaeth. Mae pwyntiau o arholiadau safonau cerdd yn cael eu hystyried lle bo hynny'n briodol, er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys yn y cynnig.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: gradd B mewn Cerddoriaeth. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cerddoriaeth **: DMM - DDM (gan gynnwys uned sy'n dangos y gallu i ddarllen hen nodiant neu gweler**)
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cerddoriaeth**
- Access**: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
**Gellir eu hystyried ar y cyd â gradd B mewn Cerddoriaeth Lefel A; neu deilyngdod yng Ngradd 5 Theori/Gradd 7 Ymarferol/ABRSM/Trinity/LCM/Rockschool; neu'r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch mewn Cerddoriaeth.
SYLWCH: Efallai y gofynnir i ymgeiswyr Cerddoriaeth ddod am gyfweliad, ac/neu y byddant yn cael cynnig clyweliad dewisol, pe baent yn cyflawni’r gofynion mynediad eraill.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae rhagolygon gwaith ein graddedigion yn rhagorol, ac mae dewis amrywiol iawn o ran gyrfaoedd. Mae ein graddedigion yn gweithio mewn amryw o rolau, gan gynnwys perfformio cerddoriaeth, ffilm, y cyfryngau a recordio, cyfansoddi, datblygu'r celfyddydau, gwneud ffilmiau ac amserlennu. Mae llawer o raddedigion yn dewis mynd yn athrawon cerdd, ar bob lefel addysgol, ac mae eraill yn dewis swyddi gweinyddol gyda cherddorfeydd, tai opera neu ganolfannau celfyddydau.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’ ar gael ar gyfer y cwrs hwn.
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.