Cymhellwyr Lles Staff – Ar gael i bob aelod o staff

Beth yw Cymhellydd Lles Staff?

Gall ein Cymhellwyr Lles ddarparu sesiynau 1-i-1 i aelodau staff sydd am wella eu hiechyd a'u lles. Mae Cymhelliant Lles yn darparu amgylchedd strwythuredig, cefnogol lle mae staff yn cael eu hannog a'u hysgogi i ystyried camau gweithredu pendant a fydd yn gwella eu hiechyd a'u lles.
Mae 20 aelod o staff y Brifysgol, o ystod o Golegau ac Adrannau, wedi cwblhau rhaglen achrededig mewn Cymhelliant Lles, a ddarperir gan yr Ysgol Cymhelliant Brydeinig (British School of Coaching). Mae'r hyfforddiant hwn yn golygu bod ganddynt gymhwyster cydnabyddedig, mewnwelediad perthnasol ar tŵls i gefnogi unigolion gyda'u lles.

Sut mae'n gweithio?

Os hoffech weithio gyda cymhellydd, cliciwch yma i ddysgu mwy.
Unwaith y byddwch wedi ymuno â’r cynllun, na byddwch yn cyfarfod â'ch cymhellydd naill ai arlein neu wyneb i wyneb, gallwch chi benderfynu ar hyn. Gallwch gael hyd at chwe sesiwn (yn dibynnu ar yr hyn rydych chi'n teimlo sydd ei angen arnoch). Gofynnir rhai cwestiynau i chi ar y dechrau ynghylch ble yr hoffech weld newidiadau i’ch iechyd a’ch lles, ac i nodi’r camau y gallech eu cymryd tuag at y rhain. Bydd cyfarfodydd dilynnol yn canolbwyntio are ich cefnogi i wneud cynydd ac yn ystyried rhwystrau posibl i'ch llwyddiant a sut i flaenoriaethu fel bod eich nodau'n parhau'n realistig.


Pa fath o bynciau iechyd allwn ni siarad amdanyn nhw?

Unrhyw beth! Efallai eich bod chi'n profi straen o gwmpas arian neu'n teimlo ar groesffordd yn eich bywyd - efallai yr hoffech chi sicrhau eich bod chi'n gwneud amser i symud neu ymarfer corff yn ystod yr wythnos waith neu'n ei chael hi'n anodd cymdeithasu ers y pandemig. Bydd y cymhellwyr yn parhau i dderbyn hyfforddiant a mewnbwn ar ystod eang o bynciau, ac mae ganddynt fynediad at becyn cymorth o adnoddau i'ch cefnogi trwy'r broses a mynediad at ffynonellau allanol o gyngor ac arweiniad, os dymunwch.


Mae pob un o’n cymhellwyr lles yn unigolion hawdd siarad â nhw, sy’n empathetig sy’n cael eu cymell i gefnogi ac annog eraill ac i ddarparu lle diogel a chyfrinachol i chi symud ymlaen I wella eich iechyd, beth bynnag fo hyn yn ei olygu i chi. Pan fyddwch yn holi am gael eich paru gyda cymhellydd lles gofynnir i chi a fyddai’n well gennych weithio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
Dywedodd un aelod o staff sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn sesiynau Cymhelliant Lles:
“Roedd cael y sesiynau hyn wedi fy helpu i weld fy sefyllfa gyda llygaid ffres. Fe wnaeth y Cymhellydd Lles fy arwain i flaenoriaethu, rheoli a threfnu fy nghyfrifoldebau mewn ffyrdd newydd, a rhoddodd yr hyder i mi ofyn am y newidiadau yr oedd eu hangen arnaf i wella fy Lles - yn y gwaith a gartref. Mae’r newidiadau a wneuthum wedi cael effeithiau cadarnhaol a pharhaol i mi.”

Cysylltwch â thîm lles y staff am ragor o wybodaeth – edrychwn ymlaen at glywed gennych!
 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?