Dosbarthiadau Rhan-amser Gyda'r Nos Mewn Ffrangeg, Sbaeneg a Tsieinëeg (Mandarin)
Ydych chi erioed wedi bod eisiau dysgu iaith? Dyma'ch cyfle i wneud hynny.
Mae dysgu iaith yn brofiad pleserus ac heriol. Bydd yn eich annog i ehangu eich gorwelion, gwerthfawrogi diwylliannau eraill a chyfoethogi eich cylch cymdeithasol.
Cyrsiau iaith hyblyg a hygyrch ar gyfer myfyrwyr, staff ac aelodau'r cyhoedd.
Dewiswch eich iaith, darganfyddwch eich lefel, a dechreuwch ddysgu mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'ch ffordd o fyw.
Mae ein modiwlau iaith yn rhedeg am 10 wythnos ac yn cael eu cyflwyno mewn sesiynau wythnosol gyda'r nos.
Dewch o Hyd i Gwrs Sy’n Addas i Chi
Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am sut i gofrestru ar ddosbarthiadau iaith, ynghyd â manylion amserlenni a gwybodaeth ychwanegol am ddeunyddiau dysgu a gwerslyfrau.
Pam Dewis Ein Cyrsiau?
Dosbarthiadau Sy'n Cyd-fynd â'ch Bywyd
Flexible evening classes running throughout the academic year.
Amgylchedd Dysgu Cefnogol
Dosbarthiadau bach a chyfleoedd rheolaidd i ymarfer eich sgiliau iaith.
Cyrsiau ar gyfer pob lefel
O ddechreuwyr i ddysgwyr uwch.
Ar agor i fyfyrwyr, staff ac aelodau'r gymuned
Mae'r cyrsiau ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Bangor, aelodau staff ac aelodau'r cyhoedd.
Ieithoedd I Pawb
Trawsgrifiad fideo: Ieithoedd I Pawb
Mae'r rhaglenni yma yw ffordd i yy cynnig ieithoedd rhyngwladol i myfyrwyr Brifysgol Bangor, ac hefyd i dysgwyr y gymuned.
Mae'r cyrsiau'n cael eu cynnig i bawb, fel y teitl yn ddeud.
Felly, dan ni'n cynnig y cyrsiau i ein myfyrwyr, ein staff, ac hefyd i dysgwyr y gymuned.
Felly, croeso i bawb!
Yn enw fi dwi Carol, a dwi'n gweithio fel Rheolwr Academi Sgrin yn lleol.
Dwi di bod yn dysgu Sbaeneg mewn gwahanol lefydd dros y blynyddoedd, ond wnes i fynd ar wefan y Brifysgol a gweld bod nhw'n cynnig yym dosbarthiadau nos.
Felly wnes i benderfynu ail-gydio yn yr yy yn y dysgu.
Ond o'n i yn gweld o'n fuddiol iawn bod mewn sefyllfa dosbarth ac yn gallu rhyngweithio efo yym pobl eraill ar y cwrs.
Ma'r yym ieithoedd i bawb yn eitha difyr oherwydd mae gennych chi fyfyrwyr.
ddeunaw oed arno fo, mae gennych chi bobl eraill fel fi sy'n bach yn hŷn, mae gennych chi bobl wedi ymddeol arno fo, felly oedd yr ystod oedran yn mynd o ddeunaw oed i saith deg dau neu rywbeth felly, ac oedd o'n ffordd ddifyr iawn o o ddysgu.
Fel rywun lleol, yn amlwg mi ydan ni'n ddwyieithog beth bynnag, felly mae'n eitha naturiol i ni ystyried dysgu iaith arall, ond mi ydach chi hefyd yn ymwybodol faint o fyfyrwyr tramor a darlithwyr hefyd o flwyddyn yym tramor sydd ym Mangor, a mae hynny hefyd wrth gwrs yn cyfoethogi
Wel, yn gyda ni, deud y gwir.