Beth fyddai'n digwydd petaech chi'n mynd yn sâl neu'n cael anaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg?
Mae'r sesiwn hon yn mynd â myfyrwyr i mewn i fyd meddygaeth Fictoraidd oedd yn newid, o dywallt gwaed a moddion patent i anesthesia, antisepsis a dechreuadau llawfeddygaeth fodern.
Ar hyd y ffordd, byddwn yn archwilio pa driniaethau a allai fod wedi helpu, pa rai a allai fod wedi achosi niwed, a pham roedd arferion meddygol a oedd yn ymddangos yn rhyfedd yn aml yn gwneud synnwyr o fewn y wybodaeth oedd ar gael ar y pryd.
Cyflwynir y weminar hon drwy gyfrwng y Saesneg.
Siaradwr
Dr Dylan Jones
Darlithydd mewn Gwyddorau Biofeddygol (Haematoleg / Ffisioleg Ddynol)