Cyn dyfodiad pelydrau-X, sganiau a llawdriniaeth orthopedig fodern, sut oedd pobl yn adnabod ac yn trin esgyrn wedi torri ac aelodau wedi datgymalu?
Gan ddefnyddio hanesion go iawn am osodwyr esgyrn yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bydd y sesiwn Gymraeg hon yn archwilio’r sgiliau, y triniaethau a’r peryglon a oedd yn gysylltiedig â thrin anafiadau cyn datblygiad meddygaeth fodern.
Bydd myfyrwyr yn darganfod sut y trosglwyddwyd gwybodaeth ymarferol drwy deuluoedd, sut roedd gosodwyr esgyrn yn gweithio ochr yn ochr â meddygon, ac weithiau yn eu herbyn, a’r hyn y gall eu hanesion ei ddweud wrthym am feddygaeth, cymuned ac arbenigedd proffesiynol.
Siaradwr
Dr Dylan Jones
Darlithydd mewn Gwyddorau Biofeddygol (Haematoleg / Ffisioleg Ddynol)