Are Wine Drinkers also Tree Huggers? Evidence of Italy’s household carbon footprint from harmonised ISTAT expenditure data, 2014–2023
Siaradwr: Professor Yener Altunbas, The Albert Gubay Business School, Bangor University
Mae’r astudiaeth hon yn cynnig persbectif newydd ar ddefnydd aelwydydd ac allyriadau carbon cysylltiedig trwy drafod a yw arferion diwylliannol penodol, fel yfed gwin, yn gysylltiedig ag ymwybyddiaeth amgylcheddol ehangach a phatrymau gwariant mwy cynaliadwy. Gan ddefnyddio set ddata ISTAT wedi ei chysoni sy'n cynnwys 212,097 o aelwydydd yn yr Eidal rhwng 2014 a 2023, rydym wedi defnyddio model effeithiau sefydlog trawsdoriadol cronedig i gymharu ôl troed carbon grwpiau defnyddwyr gwahanol yn erbyn categori sylfaenol o aelwydydd sy'n yfed diodydd pefriog yn unig. Mae'r canfyddiadau'n datgelu paradocs trawiadol: er gwaethaf dwyster carbon uniongyrchol cymharol uchel gwin, mae gan aelwydydd sy'n yfed gwin yn unig ôl troed carbon cyffredinol is o ran eu defnydd ehangach, gyda'r effaith hon yn fwyaf amlwg o blith aelwydydd iau. Mae'r canlyniadau'n gyson â'r ddamcaniaeth bod yfed gwin yn gysylltiedig â phatrymau defnydd mwy cynaliadwy. Fodd bynnag, o ystyried natur arsylwadol y data, ni ellir diystyru esboniadau amgen. Yn benodol, gall y berthynas adlewyrchu cyfeiriadedd ffordd o fyw ehangach a nodweddir gan ddibyniaeth lai ar nwyddau wedi eu prosesu a'u cynhyrchu'n ddiwydiannol yn hytrach nag effaith uniongyrchol yfed gwin.
Recommended for academics, postgraduate students, and policymakers working in environmental economics, sustainability, consumer behaviour, and public policy. The findings offer new insights into the relationship between lifestyle choices and household carbon footprints.