Colocwiwm CAInC: Profiad Gwrando: Cân Adar mewn Cyfnod o Ddifodiant
Bydd y colocwiwm undydd hwn yn archwilio gwrando amgylcheddol o safbwyntiau ecolegol, artistig a seicolegol i archwilio'r perthnasoedd rhwng yr angen i weithredu ar golli bioamrywiaeth a'r profiad o wrando fel y'i cyfryngir drwy'r celfyddydau.
Mae’r siaradwyr yn cynnwys Dr Jonathan Skinner (Prifysgol Warwick), yr Athro Zoë Skoulding, yr Athro Andrew Lewis, Dr Whitney Fleming, Dr Tyler Hallman, Joe Roy, Michael Auld ac Alice Priggen.
Mae llai o ryngweithio ag amgylcheddau naturiol wedi cyfrannu at ‘ddifodiant profiad’ (Pyle, 1978; Soga a Gaston, 2016), a diffyg talu sylw sydd wedi'i waethygu gan fyw mewn trefi a bywyd sy'n gynyddol ddigidol. Mae hyn yn ei dro yn gwanhau ymgysylltiad dynol â materion ecolegol megis colli bioamrywiaeth. Sut gall y celfyddydau a'r gwyddorau ehangu ymwybyddiaeth amgylcheddol ar y cyd, trwy ddefnyddio gwrando fel ysgogiad i weithredu?
Mae cân adar, fel sain adnabyddadwy yn y dirwedd, yn darparu canolbwynt ar gyfer ystyried y ffyrdd y mae amgylcheddau acwstig newidiol yn cael eu canfod a'u hadlewyrchu trwy farddoniaeth a cherddoriaeth.
- Pa fath o wrando sy'n cael ei ysgogi mewn gwyddoniaeth dinasyddion a sut mae hynny’n newid y gwrandäwr?
- Sut mae cyfranogiad ar y cyd wrth wrando’n weithredol ar amgylcheddau naturiol, naill ai yng nghyd-destun gwyddoniaeth dinasyddion neu ymarfer artistig, yn dylanwadu ar lesiant neu awydd unigolyn i weithredu?
- Sut mae ffurf gelf yn siapio gwrando amgylcheddol – neu i'r gwrthwyneb? Ym mha ffyrdd mae ‘celf fel profiad’ (Dewey, 1934) yn ein galluogi i dalu sylw o’r newydd i amgylcheddau?
- Pa effaith sydd gan farddoniaeth a cherddoriaeth sy'n tynnu sylw at fioamrywiaeth ar lesiant unigol neu gyfunol?
- Sut mae'r celfyddydau a'r gwyddorau'n cyfryngu cwestiynau ynghylch effeithiolrwydd unigol o gymharu ag effeithiolrwydd torfol? Beth mae ‘gweithredu’ yn ei olygu yn y celfyddydau?
- Mewn ymarfer ymchwil creadigol, mae barddoniaeth a cherddoriaeth yn ymgorffori gwybodaeth ddealledig nad yw'n bosibl ei lleihau'n syth nac yn uniongyrchol i grynodeb, ond sy'n amgodio ac yn galluogi meddwl ar y cyd sy'n canolbwyntio ar y dyfodol. Sut gall y wybodaeth hynny ategu neu ryngweithio â mewnwelediadau mesuradwy gwyddoniaeth sy'n cael ei harwain gan ddata?
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Saesneg.
Gyda chefnogaeth gan WREC Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru.
Mae lleoedd yn gyfyngedig.