Darlith Arbennig ar Gastell Sain Ffagan
Ymunwch â Dr. Bethan Scorey am ddarlith arbennig yng Nghastell Sain Ffagan i ddathlu rhyddhau ei llyfr newydd, St Fagans Castle: the Architectural and Social History of a Welsh Country House, sydd wedi'i addasu o'i thraethawd doethurol a gwblhawyd yma yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.
Bydd dwy sesiwn: un am 11:00–12:30 ac un arall am 13:30–15:00. Bydd y ddarlith, o'r enw 'A Faire Howse Within the Old Walls of a Castle', yn para am oddeutu 50 munud, gyda chyfle i ofyn cwestiynau a chymryd rhan mewn trafodaeth wedyn. Bydd cyfle hefyd i brynu copi o'r llyfr, wedi'i lofnodi.
Mae lleoedd yn gyfyngedig felly rhaid archebu tocyn o flaen llaw: defnyddiwch y ddolen a ddarperir.
Wedi'i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru, dyma’r astudiaeth cynhwysfawr cyntaf o'r plasty Gradd I, Elisabethaidd yng nghanol Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Yn y ddarlith hon, bydd Bethan yn rhoi trosolwg diddorol o hanes y Castell o'r ddeuddegfed ganrif i'r ugeinfed ganrif, gan drafod hanes pensaernïol, hanes gerddi a hanes chymdeithasol. Byddwch yn dysgu am Dr. John Gibbon, y cyfreithiwr bonheddig lleol a adeiladodd y tŷ, a sut y gwnaeth sblas fel un o'r tai cymesur cyntaf yng Nghymru. Byddwch yn clywed am y tair cenhedlaeth olynol o fenywod Windsor-Clive a siapiodd y tŷ a'r gerddi yn y cyfnod Fictoraidd. Byddwch yn darganfod unwaith ac am byth pam y gelwir y tŷ hwn yn 'Gastell'.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Gastell Sain Ffagan, gyda prosiect ail-doi mawr ar y gweill a fydd yn rhoi gwedd newydd iddo. Mae'r adeilad hwn mor gyfarwydd i gynifer ohonom, ond rydych chi'n sicr o adael y ddarlith hon gyda gwerthfawrogiad hollol newydd ohono.
Hanesydd pensaernïol o Gaerdydd ydy Dr. Bethan Scorey. Cwblhaodd ei PhD yma yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor y llynedd, ac mae'n parhau i weithio fel Aelod Cyswllt Ymchwil ac Ymgysylltu. Nawr gallwch ddod o hyd iddi yn cyd-gyflwyno cyfres S4C ‘Cartrefi Cymru’, sy’n dod â hanes pensaernïol Cymru i gynulleidfaoedd newydd. Bu Bethan yn gweithio fel Gofalwr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am ddegawd, yn dehongli’r adeiladau hanesyddol i ymwelwyr, o Dai Crwn Oes yr Haearn Bryn Eryr i’r Prefab o’r 1940au. Dyma sylfaen ei hunaniaeth fel hanesydd pensaernïol, ac mae hi wrth ei bodd yn dychwelyd i gyflwyno ei hymchwil diweddaraf.
Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth gyda Sefydliadau Ymchwil Ystadau Cymru a Gwasg Prifysgol Cymru.