DIWRNOD AGORED AR-LEIN
YMUNWCH â NI AR DDIWRNOD AGORED.
Yn ystod y Diwrnod Agored Ar-lein bydd y digwyddiad yn rhoi blas i chi ar astudio ym Mhrifysgol Bangor ac ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych.
Beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod:
- Cyfle i ddysgu mwy am y pwnc neu bynciau sydd o ddiddordeb i chi. Bydd adran arddangosfeydd i’r holl feysydd pwnc a chewch siarad â'n staff a darganfod pam fod ein cyrsiau'n iawn i chi
- Bydd sesiynau ffrydio byw i ddysgu mwy am ein Llety a Bwyd Myfyrwyr. Cewch sgwrsio â ni a chynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr yn ogystal â thimau derbyniadau, cefnogaeth i fyfyrwyr a chyllid
- Darganfod mwy am astudio trwy'r Gymraeg ym Mangor
- Edrych ar fideos, teithiau 360 o’r campws a thaith rithwir i brofi Prifysgol Bangor heb fod yma.