Mae Prifysgol Bangor ac Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Porthaethwy yn cynnal Diwrnod Hanes i nodi deucanmlwyddiant Pont Grog eiconig y Borth ar ddydd Sadwrn 31 Ionawr 2026
Bydd y diwrnod yn cynnwys cyfres o sgyrsiau diddorol a gyflwynir gan academyddion Prifysgol Bangor a haneswyr gwirfoddol o’r Ymddiriedolaeth. Gyda’i gilydd, byddant yn archwilio stori ddiddorol y Bont - o’r cyfnod cynnar cyn 1826 a’r 200 mlynedd ers hynny - gan dynnu sylw at y llwyddiannau peirianneg a’r heriau a wynebwyd ar hyd y ffordd.
Uchafbwyntiau'r Digwyddiad
- Sgyrsiau arbenigol yn olrhain hanes ac arwyddocâd y Bont.
- Mewnwelediad i'w datblygiad a'i rôl yn llunio'r rhanbarth.
- Te a choffi am ddim ar gael (nodwch: nid yw cinio wedi'i gynnwys). Diolch: Cronfa Bangor