E. T. Davies - Cymwynaswr a Chyfarwyddwr Cerdd
Darlith gan Wyn Thomas
Nodir: Bydd y ddarlith hon yn uniaith Gymraeg
Fel y gwyddoch y mae eleni yn Ganmlwyddiant penodi Cyfarwyddwr Cerdd cyntaf y coleg, ac fel rhan o'r dathliadau, bydd Wyn Thomas yn traddodi darlith ar E. T Davies.
Brodor o Aberystwyth yw Wyn Thomas a ddaeth i Fangor yn 1976 a syrthio mewn cariad â'r ardal, y Brifysgol a'i phobl. Treuliodd ddeugain mlynedd a mwy yn gweithio yn y sefydliad ac mae’n parhau i gyfarwyddo myfyrwyr ôl-radd ac yn ei eiriau ef ei hun: “hyfrydwch yw cael dysgu cymaint oddi wrthynt”.
Ymunwch drwy Zoom, gan ddefnyddio'r linc isod, i ddysgu mwy am “gyfoeth ac ehangder y traddodiad cerddorol yng Nghymru.”
Dolen Zoom: https://us02web.zoom.us/j/4235085240?pwd=cWg3TnhZRUFIUVJKL1RkaE1BZjM3Zz09
ID y cyfarfod: 423 508 5240
Passcode: Bangor