Gweithdy 1: Sesiwn gyflwyniadol NVivo (sesiwn ar-lein)
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad byr i NVivo, pecyn cyfrifiadurol sy'n cefnogi dadansoddi data ansoddol. Mae'r pecyn cyfrifiadurol hwn yn cefnogi sawl dull o ddadansoddi data - megis dadansoddiad thematig neu ddamcaniaeth seiliedig. Byddwn yn trafod yn fyr beth mae codau a chodio’n ei olygu, cyn symud ymlaen i ddefnyddio NVivo. Sylwer mai sesiwn ar-lein yw hon. Nod y sesiwn yw rhoi trosolwg i chi ar yr hyn y gellir defnyddio NVivo ar ei gyfer, a thrafodaeth o'r prif nodweddion a swyddogaethau. Byddaf yn rhannu adnoddau a fydd hefyd ar gael ar Blackboard.
Er mwyn cael y budd mwyaf o'r sesiwn, rhaid i chi lawrlwytho NVivo ar eich gliniadur (cysylltwch â desg gymorth TG), helpdesk@bangor.ac.uk ), fel arall ni fyddwch yn gallu ymuno.