Gweithdy Gwasgu Blodau Herbariwm
Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth
Rhowch gynnig ar wasgu blodau mewn gwasg flodau bren draddodiadol yng nghwmni Anna o'r cwmni Bransh & Brush Studios.
Cewch greu herbariwm/ffrâm flodau’n defnyddio detholiad o flodau sych a blodau wedi eu gwasgu. Bydd cyfle hefyd i fynd â'ch blodau gartref gyda chi am dâl ychwanegol.
Cewch gyfle i edrych ar sbesimenau o archif y brifysgol er mwyn cael eich ysbrydoli, gan gynnwys gwasgiadau a wnaed gan George Forrestt, Joseph a William Hooker, a Mary Wyatt, sef un o’r merched cynharaf i gasglu blodau at ddibenion gwyddonol, ac mae’r Algae Danmonienses o’i heiddo yn astudiaeth arloesol o algâu morol Prydain.
£35 i gynnwys yr holl ddeunyddiau sydd eu hangen i roi cynnig ar wasgu blodau ac i wneud eich herbariwm eich hun, yr hyfforddiant, diodydd poeth a bisgedi.
Tâl ychwanegol dewisol o £30 os hoffech fynd â’ch blodau gartref gyda chi ar y diwrnod (gall cyfranogwyr dalu’r swm ychwanegol hwn ar y diwrnod ag arian parod neu dalu â cherdyn).
Parcio am ddim ar y safle.