Gweminar Holi ac Ateb Byw Nyrsio Oedolion
Mynediad Mawrth 2027
Ydych chi'n ystyried astudio Nyrsio Oedolion fis Mawrth? Oes gennych chi gwestiynau? Mae gennym ni'r atebion!
Ymunwch â ni ar-lein am sesiwn holi ac ateb fyw gyda thîm Nyrsio Prifysgol Bangor a darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ddechrau eich taith ym maes Nyrsio Oedolion ym mis Mawrth 2027.
P'un a ydych yn ystyried newid gyrfa, dychwelyd i addysg neu'n paratoi i wneud cais, mae'r sesiwn anffurfiol hon ar-lein yn gyfle i chi ofyn cwestiynau, cael cyngor arbenigol ac archwilio eich opsiynau.
Yn ystod y gweminar, cewch gyfle i:
- Ofyn cwestiynau i'n tîm Nyrsio am y radd Nyrsio Oedolion.
- Ddarganfod mwy am leoliadau clinigol a sut brofiad yw astudio Nyrsio.
- Cael cyngor ar y gofynion mynediad, y broses ymgeisio a chyfweliadau.
- Dysgu am y cyllid a'r cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr Nyrsio.
- Darganfod y camau nesaf tuag at ymuno â ni ym mis Mawrth 2027.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein drwy Microsoft Teams, felly gallwch ymuno â ni o ble bynnag yr ydych.
Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle a chymryd y cam nesaf tuag at yrfa mewn Nyrsio.