Gwibdaith! Llanberis
Yr wythnos hon byddwn yn mynd â chi i gartref yr Wyddfa. Yn swatio yng nghysgod y mynyddoedd mae tref Llanberis. Treuliwch y diwrnod yn crwydro’r llecyn hwn o Eryri, lle dewch o hyd i lyn prydferth, rheilffordd fynydd a siopau coffi bach del. Sylwer, nid ydym yn argymell dringo'r Wyddfa ar yr achlysur hwn oherwydd y cyfyngiadau tyn o ran amser. Bydd Campws Byw yn cynnal taith gerdded wedi ei thywys yn y gwanwyn.