Gwytnwch mewn Ymchwil: Dulliau Creadigol ar gyfer Lles Meddyliol yn ystod y Daith Ddoethurol (Sesiwn wyneb yn wyneb)
Wedi ei hwyluso gan Gwawr Wyn Roberts, Ymarferydd Llesiant a Therapydd Celf.
Mae'r sesiwn ryngweithiol hon yn gwahodd ymchwilwyr doethurol i oedi, myfyrio, ac ailgysylltu â'u gwydnwch gan ddefnyddio dulliau syml a chreadigol. Trwy weithgareddau celfyddydol dan arweiniad, trafodaeth, ac offer ymarferol, bydd cyfranogwyr yn archwilio realiti bywyd PhD, yn deall straen a gwydnwch, ac yn datblygu strategaethau ar gyfer cydbwysedd a ffiniau.
Dyma ddolen i'r llyfr gwaith: https://sway.cloud.microsoft/ElZIua2e96XAOW30