Her Fuddsoddi 2026
Ymunwch ag Ysgol Fusnes Albet Gubay ar ddydd Gwener, 26 o Fehefin am ddiwrnod bywiog o’r farchnad stoc ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11 a 12.
Rhowch eich sgiliau gwneud penderfyniadau ar brawf yn ein her farchnad stoc rithwir. Bydd disgyblion yn prynu a gwerthu cyfranddaliadau mewn amser real, ymateb i newyddion busnes, a chystadlu i sicrhau’r elw uchaf ar eu portffolio buddsoddi.
Mae’r digwyddiad yn agored i bob disgybl, waeth beth fo’u pynciau TGAU neu Lefel A.
Bydd disgyblion yn ymgymryd â rolau amrywiol gan gynnwys rheolwr buddsoddi a masnachwr dadansoddol ar farchnad ecwiti fyd - eang, datblygu ac addasu strategaethau masnachu mewn ymateb i newyddion busnes, gwybodaeth am gwmnïau a data am y farchnad.
Bydd y digwyddiad yn helpu i ddatblygu’r sgiliau canlynol:
- Chynllunio
- Trefnu
- Cyfathrebu
- Meithrin Perthynas
- Datrys Problemau
Pa bynnag dîm sy’n gwneud yr elw mwyaf ar eu portffolio sy’n ennill. Bydd y tîm buddugol yn rhoi cyflwyniad byr ar eu strategaeth fasnachu.