Mobility, Immobility and Transgression: Representations of Dangerous Travellers in Mounsi’s La Noce des fous
Cyfres Seminarau Ymchwil IDC
Jonathan Lewis
Mae'r papur hwn yn dadansoddi cynrychioliadau symudedd a chamwedd yn La Noce des fous (1990) gan Mounsi, awdur Ffrengig o dras Algeriaidd.Yn fwy penodol, bydd y papur yn asesu potensial camweddog symudedd a symudiad trwy gysylltiadau a wneir yn y testun rhwng crwydro, trosedd a thramgwyddaeth.Trwy archwilio'r cyswllt hwn, mae'r papur yn gwerthuso i ba raddau y mae cynrychioliadau o symudedd a chamwedd yn herio cysyniadau gwreiddiedig o hunaniaethau cenedlaethol a'r naratifau hanesyddol unddiwylliannol sy'n gysylltiedig â'r hunaniaethau hyn.Er bod y syniad bod symudedd yn ansefydlogi diffiniadau traddodiadol, unigol o hunaniaeth yn syniad sydd wedi’i hen sefydlu, gan ysgolheigion megis Gilles Deleuze a Félix Guattari er enghraifft, mae’r cysylltiadau rhwng symudiad a chamwedd a ganfyddwn yn nhestun Mounsi yn awgrymu safbwynt amgen ar symudedd, un sy'n bwrw amheuaeth ar ei botensial i alluogi.Yn wir, mae cysyniad Deleuze a Guattari o nomadoleg wedi'i feirniadu, yn arbennig gan Christopher L. Miller yn Nationalists and Nomads (1998), am fod yn hynod Ewro-ganolog ac am barhau â dull trefedigaethol o feddwl.Mae'r papur hwn yn ceisio datgelu parhad trefedigaethol o'r fath mewn damcaniaethau sefydledig am deithio a symudedd a, chan dynnu ar y 'paradeim symudedd newydd' a gyflwynwyd gan Mimi Sheller a John Urry, mae'n herio'r duedd sydd braidd yn or-syml i gyfateb symudedd â rhyddid. Fel y canfyddwn yn nhestun Mounsi, mae gan ddinasyddion symudol difreintiedig berthynas wahanol iawn â theithio a symud o gymharu â theithwyr sy’n bennaf yn ddosbarth canol ac sy’n bennaf yn wyn; nhw yw cyfrwng eu symudedd eu hunain, gan ein gorfodi i ystyried canlyniadau trawsnewidiol a chythryblus o bosibl symudiadau mudol.Wrth archwilio cysylltiadau a wneir rhwng symudiad a chamwedd yn La Noce des fous, byddaf yn asesu i ba raddau y mae symudedd yn dal yn gallu rhoi her i ddulliau meddwl trefedigaethol sy’n parhau’r cof am hunaniaethau cenedlaethol unigol a naratifau hanesyddol pan gânt eu gweithredu gan deithwyr di-freintiedig, anrhagfynegadwy, ac o bryd i’w gilydd peryglus. Wrth wneud hynny, mae'r papur yn tanlinellu'r angen, sydd eisoes wedi'i gyflwyno gan y 'paradeim symudedd newydd', i ymgyrraedd at ddealltwriaeth fwy cynhwysfawr ac annhrefedigaethol o symudedd a theithio.