Mwy na Geiriau: Cyfathrebu mewn Iechyd a Gofal
Cynlluniwyd yr adnodd hwn i fagu hyder myfyrwyr ar raglenni proffesiynol i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chleifion a chydweithwyr yn y GIG.
Ac eithrio Uned 1, mae pob uned yn dilyn llwybr claf penodol i ddangos sut mae gwahanol broffesiynau yn cydblethu ac yn effeithio ar brofiad y claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth. Gallwch weithio trwy'r pecyn cyfan mewn trefn neu ddewis a dewis unedau penodol.
Mae'r rhan fwyaf o'r unedau yn cyflwyno geiriau, ymadroddion a therminoleg Cymraeg i'w defnyddio gyda chleifion a staff. Er y bydd yr eirfa hon yn gyfarwydd i fyfyrwyr sydd eisoes yn siarad Cymraeg, fe’u hanogir i ystyried sut i rannu ac addysgu’r eirfa i’w cyfoedion.