Noson Barddoniaeth efo Jason Allen-Paisant a Lee Duggan
Y Llechan / At Eich Coed
Mae Jason Allen-Paisant yn ysgolhaig, yn fardd ac yn awdur arobryn. Ef yw awdurThéâtre dialectique postcolonial (Classiques Garnier), acEngagements with Aimé Césaire (Oxford University Press, 2023), sef astudiaeth athronyddol o farddoniaeth o safbwynt metaffiseg Affricanaidd. Mae hefyd yn awdur dwy gyfrol o farddoniaeth —Thinking with Trees (enillydd y categori barddoniaeth yn y2022 OCM Bocas Prize for Caribbean Literature) a Self-Portrait as Othello, y ddwy wedi eu cyhoeddi gan Carcanet Press. Mae’n uwch ddarlithydd mewn theori feirniadol ac ysgrifennu creadigol yn yr Adran Saesneg, Astudiaethau Americanaidd, ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Manceinion.
Mae Lee Duggan yn fardd sy’n byw ar odre mynyddoedd Eryri. Dilynwyd ei chasgliad cyntaf, Reference Points (Aquifer 2017), gan Green (Oystercatcher 2019). Ymddangosodd ei gwaith mewn blodeugerdd o farddoniaeth arloesol gyfoes o Gymru, The Edge of Necessary (Aquifer 2018). Ei chasgliad diweddaraf yw Residential Poems (Aquifer 2022). Mae hi’n hwyluso’r gweithdai lles ac ysgrifennu creadigol “Walking with Words”.
Efo gwesteion arbennig o Ysgol Friars.
Croeso i bawb. Am ddim. Cyflwynir gan Yr Athro Zoë Skoulding, Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, gyda chefnogaeith Llenyddiaeth Cymru.