Papurau Dr Rachel Bromwich
Darlith gan Claire Lober, Ysgol y Gymraeg
Dewch i wrando ar Claire Lober, myfyrwraig ôl-raddedig o'r Ysgol Gymraeg, yn trafod casgliad archifol Rachel Bromwich, sydd yng ngofal yr Archifau a Chasgliadau Arbennig ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd Rachel Bromwich yn ysgolhaig Celtaidd a fu'n ddarlithydd mewn Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd yng Nghaergrawnt rhwng 1945 a 1976. Cyn y penodiad hwn, roedd wedi astudio ym Mangor o dan Syr Ifor Williams, Athro'r Gymraeg.
Yn ddiweddar, gweithiodd Claire Lober ar brosiect i gatalogio Papurau Rachel Bromwich – gorchwyl sydd wedi rhoi cipolwg unigryw iddi ar fywyd a gwaith yr ysgolhaig nodedig hon.
Mae'r ddarlith hon yn rhan o weithgareddau wythnos 'Explore your Archive' (Archwiliwch eich Archif), sy'n cael ei chynnal ledled y DU. Gall y rhai sy'n dymuno mynychu ymuno â ni yn bersonol neu ar-lein.