Positive Choices / Dewisiadau Cadarnhaol 2027
Cymuned: Gyda'n Gilydd Rydym yn Gryfach
Ymunwch â myfyrwyr Nyrsio Anableddau Dysgu ac Anableddau Deallusol o bob rhan o'r DU a Gweriniaeth Iwerddon am ddau ddiwrnod o ysbrydoliaeth, dysgu a rhwydweithio ym Mhrifysgol Bangor.
Wedi'i gynnal gan Ysgol Gwyddorau Iechyd, mae Positive Choices / Dewisiadau Cadarnhaol 2027 yn dod â myfyrwyr nyrsio, pobl ag anableddau dysgu, gofalwyr teuluol, ymarferwyr ac arweinwyr proffesiynol ynghyd i rannu profiadau, dathlu llwyddiannau ac archwilio dyfodol y proffesiwn.
Gyda thema eleni, Cymuned: Gyda'n Gilydd Rydym yn Gryfach, mae'r digwyddiad yn dathlu grym cydweithio a'r gwahaniaeth y gallwn ei wneud wrth ddysgu a datblygu gyda'n gilydd.
Pam Mynychu?
Mae Positive Choices / Dewisiadau Cadarnhaol yn gyfle unigryw i:
- Gysylltu â chyd-fyfyrwyr nyrsio o bob rhan o'r DU a Gweriniaeth Iwerddon.
- Cael eich ysbrydoli gan brif siaradwyr, pobl ag anableddau dysgu a gofalwyr teuluol sy'n rhannu eu profiadau.
- Darganfod arferion arloesol a datblygiadau newydd ym maes Nyrsio Anableddau Dysgu ac Anableddau Deallusol.
- Cymryd rhan mewn trafodaethau rhyngweithiol, gweithgareddau dan arweiniad myfyrwyr a chyfleoedd rhwydweithio.
- Dathlu y proffesiwn a meithrin cysylltiadau i gefnogi eich gyrfa yn y dyfodol.
Rhaglen y Digwyddiad
Dydd Iau 8 Ebrill 2027
- 12:00pm: Cofrestru
- 12:00pm–4:00pm: Sesiynau Caffi Chwyrlïol rhyngweithiol, trafodaethau dan arweiniad myfyrwyr a chyfleoedd rhwydweithio.
- O 6:00pm ymlaen: Digwyddiad Dathlu Myfyrwyr Positive Choices / Dewisiadau Cadarnhaol.
Dydd Gwener 9 Ebrill 2027
- 9:00am: Cofrestru
- Yn ystod y dydd: Cyflwyniadau ysbrydoledig, profiadau bywyd, prif siaradwyr a chyfleoedd i archwilio arferion arloesol.
- 3:30pm: Diwedd y digwyddiad.
Bydd rhaglen fanylach yn cael ei rhannu yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dyddiadau: Dydd Iau 8 – Dydd Gwener 9 Ebrill 2027
Lleoliad: Pontio, Prifysgol Bangor
Cost: Mae'r digwyddiad am ddim i fyfyrwyr Nyrsio Anableddau Dysgu ac Anableddau Deallusol, diolch i gefnogaeth hael ein noddwyr a'n partneriaid.
Gwahoddir academyddion ac ymarferwyr i wneud cyfraniad gwirfoddol (awgrymir cyfraniad o £5 o leiaf).
Ein Noddwyr a'n Partneriaid
Cefnogir Positive Choices / Dewisiadau Cadarnhaol 2027 gan sefydliadau sydd wedi ymrwymo i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o Nyrsys Anableddau Dysgu ac Anableddau Deallusol.
Diolch i Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (RCN Cymru) ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) am eu cefnogaeth.
Oes gennych ddiddordeb mewn noddi neu arddangos yn Positive Choices / Dewisiadau Cadarnhaol 2027?
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd noddi ac arddangos. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â r.w.williams@bangor.ac.uk.
Byddwch yn Rhan o Positive Choices / Dewisiadau Cadarnhaol 2027
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gysylltu, dysgu a dathlu ochr yn ochr â gweithwyr nyrsio proffesiynol y dyfodol o bob rhan o'r DU a Gweriniaeth Iwerddon.