Sound perspectives for inferring social meaning? Speech and speaker dynamics over a century of Scottish English
Cylch Ieithyddiaeth
Yr Athro Jane Stuart-Smith, Prifysgol Glasgow
Mae persbectif yn bwysig mewn llawer o ddisgyblaethau, ac mae hynny’n wir am sosioieithyddiaeth hefyd. Mae amrywioldeb strwythuredig mewn iaith yn digwydd ar bob lefel ieithyddol ac yn cael ei reoli gan amrywiaeth eang o ffactorau amrywiol. O edrych arno trwy wydr syncronig, mae amrywiad o'r fath yn llywio ein dealltwriaeth o gyfyngiadau ieithyddol a chymdeithasol-wybyddol ar iaith ar adegau penodol; mae gwydr diacronig yn ehangu'r ffocws dros amser. Fel y nododd Weinreich et al (1968), mae amrywioldeb strwythuredig yn rhan annatod o ddisgrifiad ac esboniad ieithyddol drwyddo draw, gan ei fod yn ymwneud â’r presennol, yn dangos atgyrchau’r gorffennol ac yn dangos y potensial am newidiadau yn y dyfodol, i gyd ar yr un pryd. Ceir dimensiwn pellach nad yw'n amlwg yn aml, sef cyfraniad persbectif dadansoddol at ffenomenau sosioieithyddol.
Mae’r papur hwn yn ystyried math arbennig o amrywioldeb strwythuredig, amrywiad ffonetig a ffonolegol, yng nghyd-destun sosioieithyddol hanes Saesneg brodorol Glasgow yn ystod yr 20fed ganrif. Mae dwy agwedd ar bersbectif yn fframio fy mhrif gwestiynau ymchwil: (1) beth yw'r 'pethau' rydym yn sylwi arnynt, ac sy’n gwneud i ni ddod i’r casgliad y gallai ystyr cymdeithasol fod ar waith mewn lleferydd? (2) Sut mae'r 'pethau' hyn wedi eu gwreiddio mewn amser a lle cymdeithasol? Rwy’n ystyried y cwestiynau hyn drwy adolygu cyfres o astudiaethau o ddwy sain yn Saesneg Glasgow, sain y credir ei bod yn sefydlog a heb fod yn destun newid (/s/, e.e. seat), a sain y credir ei bod yn newid (ôl-leisiol /r/, e.e. car).
ID y cyfarfod: 381 054 600 192
Cyfrinair: bi5AMc
