'Why there is more than one Greek language: the case of Romeyka'
Cylch Ieithyddiaeth
Yr Athro Ioanna Sitaridou, Prifysgol Cambridge
Mae Romeyka, amrywiad o dan fygythiad o iaith Groeg a siaredir yng Ngogledd-Ddwyrain Twrci, wedi cadw ffurf annherfynol berfau – nodwedd sy’n absennol mewn Groeg Modern. Yn seiliedig ar hyn, rwyf wedi creu cronoleg o esblygiad Proto-Pontig, sy’n cynnwys Romeyka, ac wedi canfod ei bod wedi gwahanu oddi wrth amrywiadau Groeg eraill o leiaf 500 cyn yr hyn a ystyrid yn flaenorol. Golyga hyn bod y rhaniad yn y cyfnod Helenistaidd, yn hytrach na’r oesoedd canol, ac felly'n cynnig ffylogenedd newydd ar gyfer Groeg Asia Leiaf. Yn ddiddorol, (i) er gwaetha’r gwahanu cynnar, (ii) amrywio cystrawennol sylweddol ar lefelau micro- (o gymharu â Groeg Modern) a nano- (o gymharu ag amrywiadau Groeg Pontig eraill) yn ogystal â (iii) hunaniaeth ar wahân y siaradwyr, sy’n eu gweld eu hunain fel Tyrciaid, mae llawer yn parhau i ystyried yr amrywiad fel un tafodiaith Roeg ymhlith llawer. Yn y cyflwyniad hwn, byddaf yn archwilio’r rhesymau ieithyddol, ethnoieithyddol, hanesyddol ac ideolegol nad yw hynny’n wir. Rwyf yn dadlau bod mwy nag un iaith Roeg, a bod Romeyka yn un ohonynt.
ID y Cyfarfod: 316 491 056 225
Cyfrinair: 6Zcyev