Ysgol Fusnes Albert Gubay: Sesiwn Holi ac Ateb
Mynediad Medi 2027
Wyt ti'n ystyried pa radd Busnes sydd orau i ti? Oes gen ti ddiddordeb mewn astudio yn Ysgol Fusnes Albert Gubay? Awyddus i glywed mwy am Brifysgol Bangor, bywyd myfyriwr, a sut brofiad yw byw ac astudio ym Mangor?
Ymuna â ni ar-lein am sesiwn Holi ac Ateb gyda rhai o'n tîm academaidd a tyrd i ddysgu mwy am sut beth yw astudio Busnes ym Mhrifysgol Bangor.
P'un a wyt dal i ystyried dy opsiynau neu'n paratoi i wneud cais, bydd y sesiwn gyfeillgar ac anffurfiol hon yn gyfle gwych i ti ofyn cwestiynau, dysgu mwy am ein cyrsiau, a darganfod ble y gallai gradd mewn Busnes dy arwain.
Yn ystod y sesiwn, bydd cyfle i ti:
- Sgwrsio gyda'n tîm academaidd a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gen ti am astudio yn Ysgol Fusnes Albert Gubay
- Darganfod mwy am ein cyrsiau Busnes a'r hyn sydd gan Fangor i'w gynnig
- Dysgu am y camau nesaf tuag at ymuno â ni yn fis Medi 2027
- Cael cyngor ac arweiniad i'th helpu i wneud dewis ar gyfer dy ddyfodol
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein drwy Microsoft Teams.
Cofrestra nawr a tyrd i ddarganfod mwy am astudio Busnes ym Mangor.