Fy ngwlad:
Main Arts open window drone

Dewch i'r Diwrnod Ymweld - Dydd Sul, 26 Ebrill 2026

Ydych chi dal yn ystyried eich opsiynau ar gyfer Medi 2026 neu yn ymchwilio eich opsiynau ar gyfer Medi 2027? Dewch i'r Diwrnod Ymweld ar Ddydd Sul, 26 Ebrill. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yma.

cofrestru ar y Diwrnod Ymweld

Beth fyddwch yn ei wneud ar y Diwrnod Ymweld?

  • mynychu sesiynau blasu pwnc i roi mwy o wybodaeth i chi am astudio eich dewis cwrs ym mis Medii
  • ymweld â’n llety myfyrwyr ac adnoddau chwaraeon
  • ymweld â’r ardal arddangos i ganfod mwy am yr ystod eang o wasanaethau cefnogol ac Undeb y Myfyrwyr
  • sgwrsio gyda staff a myfyrwyr presennol drwy gydol y dydd. 

Darganfod y cwrs perffaith ar gyfer Medi 2026

Cymrwch olwg ar ei meysydd pwnc new olwg fwy manwl ar ein cyrsiau i ddod o hyd i'ch cwrs perffaith.

Meysydd pwnc israddedig

Graddau israddedig

Wedi gwneud cais am gwrs yn cychwyn ym Medi 2026? Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Os ydych wedi gwneud cais i astudio yma, cewch wahoddiad i Ddiwrnod i Ymgeiswyr drwy'r post / e-bost. 

Mwy am y Diwrnodau i Ymgeiswyr

Cofrestru ar gyfer Diwrnod i Ymgeiswyr

Dau fyfyriwr yn cerdded trwy fwa coffa un yn gwisgo hwdi coch Prifysgol Bangor a'r llall yn gwisgo cot las

Pam Dewis Prifysgol Bangor?

Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Llety modern sydd yn y 10 Uchaf yn y DU*

Byddwch yn teimlo'n gartrefol yn ein neuaddau preswyl. Mae ein llety yn fodern ac yn gyfforddus ac o fewn pellter cerdded i'r rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol. Nid yw'n syndod felly bod ein llety myfyrwyr wedi eu gosod yn y 10 Uchaf yn y DU (*Gwobrau WhatUni? 2024).

 

Myfyriwr ar Fwrdd Padlo ar Llyn Padarn yn Llanberis

Lleoliad ysbrydoledig i fyw a dysgu

Mae'r Brifysgol yn cynnig amgylchedd hamddenol i fyfyrwyr gymdeithasu, dysgu a gwneud ffrindiau oes. Mae ein lleoliad, y golygfeydd a'r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau pam mae llawer o'n myfyrwyr yn dewis dod i Fangor.

Myfyrwyr yn eistedd yn y caffi pontio yn yfed coffi ac yn chwerthin gyda'i gilydd

Gofalu a chefnogi ein myfyrwyr

Ym Mangor, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi. O'r munud y byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth ag sydd eu hangen arnoch chi.

Student playing basketball

Dewis eang o Glybiau a Chymdeithasau

Mae Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr, sydd wedi cael eu gwobrwyo ymysg y gorau yn y DU tros y blynyddoedd, yn gyfle gwych i ddod i adnabod eraill. Felly, p'un a yw'n rywbeth rydych yn ymddiddori ynddo erioed neu'n chwaraeon neu weithgareddau rydych wedi bod eisiau rhoi cynnig arnynt erioed, mae yna ddigon i'ch cadw'n brysur yn eich amser hamdden.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig