Trosolwg o'r Ymchwil
Diddordebau Ymchwil:
Dr Hadia Almahli sy’n arwain y rhaglen ymchwil Cemeg Meddyginiaethol ym Mhrifysgol Bangor, gan ganolbwyntio ar ddylunio, syntheseiddio a gwerthuso biolegol asiantau therapiwtig a diagnostig newydd. Mae ei hymchwil yn ymdrin â chlefydau heintus, oncoleg a niwroddirywiad, gan integreiddio cemeg organig synthetig, cemeg meddyginiaethol, darganfod cyffuriau sydd wedi'u sbarduno gan gynhyrchion naturiol, ac optimeiddio’r berthynas rhwng strwythur a gweithgarwch (SAR).
Mae ei phortffolio yn cynnwys datblygu gwrthfiotigau newydd, asiantau gwrth-dwbercwlosis, atalyddion cinas ar gyfer canser y fron triphlyg-negatif, cyfansoddion gwrth-trypanosomaidd ar gyfer clefyd Chagas, ac ymgeiswyr gwrthfirol sy'n targedu CHIKV. Mae hi hefyd yn datblygu technolegau diagnostig y genhedlaeth nesaf ar gyfer clefydau niwroddirywiol gan ddefnyddio llwyfannau gwrthgyrff cemegol, mewn cydweithrediad â phartneriaid blaenllaw yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Mae ei grŵp yn croesawu myfyrwyr MSc a PhD sydd â diddordeb mewn darganfod cyffuriau moleciwl bach, bioleg gemegol, dylunio sy’n seiliedig ar dargedau, a chemeg meddyginiaethol trosi.
Prif Arbenigeddau
- Cemeg organig synthetig
- Cemeg meddyginiaethol
- Darganfod cyffuriau sydd wedi'u sbarduno gan gynhyrchion naturiol
- Datblygiad perthynas rhwng strwythur a gweithgarwch (SAR)
- Dylunio cyffuriau gwrth-heintus a gwrthfirol
- Datblygiad atalyddion cinas
- Cyffuriau gwrthganser
- Dylunio chwiliedyddion diagnostig a bioleg gemegol
- Ymchwil drosi gydweithredol
Cyfleoedd ar gyfer Myfyrwyr MSc drwy Ymchwil a Myfyrwyr PhD
- Dylunio a Syntheseiddio Therapiwteg Moleciwl Bach Newydd: darganfod sgaffaldiau newydd ar gyfer targedau heintus neu dargedau oncolegol.
- Cemeg Meddyginiaethol Atalyddion Cinas: optimeiddio atalyddion ar gyfer canserau megis TNBC.
- Darganfod Cyffuriau ar gyfer Clefydau Trofannol sydd wedi eu Hesgeuluso: asiantau gwrth-trypanosomaidd a gwrth-dwbercwlosis.
- Optimeiddio Perthynas Strwythur-Gweithgarwch (SAR): dyluniad ailadroddol i wella cryfder, detholedd ac ADME.
- Datblygu Moleciwlau Bach Gwrthfirol: targedu pathogenau firol sy'n dod i'r amlwg gan gynnwys CHIKV.
- Dulliau Bioleg Gemegol ar gyfer Niwroddirywiad: chwiliedyddion ac asiantau diagnostig ar gyfer clefydau camblygu protein.
- Darganfod Cyffuriau sydd wedi'u Sbarduno gan Gynhyrchion Naturiol: addasu ac optimeiddio sgaffaldiau naturiol bioactif.
- Technolegau Gwrthgyrff Cemegol ar gyfer Diagnosteg: llwyfannau canfod sy'n seiliedig ar foleciwlau bach ar gyfer biofarcwyr niwroddirywiol.
- Nodi Targedau Cyfrifiadurol ac Arbrofol: docio moleciwlaidd, modelu moleciwlaidd, a dilysu mewn labordy gwlyb.
- Dylunio Cyffuriau Aml-Darged: dylunio rhesymegol cyfansoddion sy'n gweithredu ar nifer o lwybrau clefyd.
Cydweithredu
- Partneriaid academaidd yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol
- Grwpiau ymchwil clinigol ac ymchwil drosi
- Cydweithredwyr diwydiannol ym meysydd darganfod cyffuriau a diagnosteg
Cyswllt
Mae Dr Almahli yn croesawu ymholiadau gan fyfyrwyr brwdfrydig sydd â diddordeb mewn dylunio cyffuriau moleciwlau bach, atalyddion cinas a chyffuriau gwrthganser, cyffuriau gwrth-heintus, cyffuriau gwrthfirol, deilliadau cynhyrchion naturiol, a thechnolegau gwrthgyrff cemegol. Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu i drafod syniadau project a chyfleoedd ariannu.