Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddiogelwch gofal acíwt gyda phwyslais ar rôl cleifion, timau a systemau digidol.
- Mae profiad y claf yn allweddol ar gyfer disgrifio ansawdd gwasanaethau. Ond sut ydym yn asesu Profiad ar Sail Adroddiadau Cleifion yn amgylchedd byrhoedlog gofal acíwt a gofal brys lle gallai cleifion symud rhwng sawl tîm mewn cyfnod o oriau a dyddiau?
- Mae diogelwch mewn gofal iechyd yn aml yn dibynnu ar allu unigolion i weithredu dan bwysau mewn timau. Yn aml nid yw gwaith tîm yn cael ei asesu mewn arholiadau clinigol. Gallai'r ffordd rydym yn asesu myfyrwyr unigol mewn arholiadau cystadleuol iawn effeithio’n negyddol ar eu hagwedd at gydweithredu. Sut allwn ni hyfforddi unigolion yn well ar gyfer gweithio mewn timau a sut allwn ni asesu ansawdd gwaith tîm unigolion mewn arholiadau?
- Cofnodion iechyd electronig yw'r buddsoddiad mwyaf helaeth i unrhyw ysbyty, yn aml yn costio symiau deg ffigur. Yn rhyfedd ddigon, nid ydym yn gwybod fawr ddim am effaith cofnodion iechyd electronig ar ddiogelwch cleifion. Sut ydym yn asesu ac yn meincnodi ansawdd a diogelwch systemau digidol newydd?