Mae grŵp Caban yn trafod sut gall llyfrynnau Grym Mewn Gwybodaeth helpu pobl y mae dementia yn effeithio arnynt a'r rhai sy'n gofalu amdanynt
Siaradwr 1:
Pan ges i ddiagnosis, pe bai llyfrynnau Grym Mewn Gwybodaeth wedi bod ar gael bryd hynny, boed un o'r tri llyfryn neu'r tri gyda'i gilydd, byddwn wedi cael syniad o beth oedd ar gael i mi a beth oedd hynny'n ei olygu i mi ac i'm teulu.
Yn lle cael bag llawn o daflenni a phapurau nad oedd o fawr o ddefnydd imi, heb wybod am PIP, heb wybod am Fathodynnau Glas, gofal seibiant, Pŵer Atwrnai, a'r holl bethau nad oeddwn erioed wedi bod angen gwybod amdanynt yn fy mywyd, doedd neb wedi dweud wrthyf amdanynt.
Drwy weithio gyda'n gilydd fel tîm, roedd gan bob un ohonom wybodaeth am y pethau yr oeddem wedi dod ar eu traws, ac mae'r rheini wedi'u cynnwys yn y llyfrynnau.
Mae'r llyfrynnau wedi'u cyflwyno mewn ffordd sy'n gyfeillgar i bobl sy'n byw gyda dementia, gyda geiriau clir, lluniau, manylion gwasanaethau a chymorth, a manylion pwy i gysylltu â nhw. Byddai hynny wedi gwneud cymaint o wahaniaeth, nid yn unig i mi ond hefyd i fy nheulu.
Dim ond yn ddiweddar y daeth Will i wybod am y Nyrsys Admiral, a dywedais, “Fe gysylltais â nhw”, ond roeddwn yn ysu am help felly es i chwilio ar Google, a darganfyddais y Nyrsys Admiral. Doedd gen i ddim syniad eu bod nhw'n bodoli. Fe'u ffoniais, a bûm ar y ffôn am oriau. Ond nid oedd neb wedi dweud wrthyf amdanynt.
Felly mae'r holl wybodaeth honno nad oeddem yn gwybod amdani, bellach yno. Nid yn unig i ni, ond hefyd i'n teuluoedd, ein gofalwyr, a phawb arall.
Siaradwr 2:
Oherwydd nad oeddem yn gwybod am yr holl bethau hyn oedd ar gael.
Dim ond drwy ymchwil a thrwy gydweithio fel tîm rydyn ni wedi gallu creu hyn.
Siaradwr 3:
Sut ydych chi'n teimlo am y ffaith eich bod wedi'i greu?
Siaradwr 2:
Rwy'n falch iawn ohono.
Siaradwr 1:
Dyna'n union oeddwn i'n ei feddwl. Balch, ie.
Siaradwr 4:
Rwy'n teimlo mai dyma'r peth mwyaf gwerth chweil i mi ei wneud erioed yn fy mywyd, sef helpu i greu Grym Mewn Gwybodaeth.
Yn bennaf oherwydd fy mod i'n gwybod beth es i drwyddo ar y dechrau. Ac oherwydd fy mod i'n gwybod y bydd y llyfr hwn yn helpu pobl eraill drwy'r cyfnod anodd hwnnw.
Ond yr hyn sy'n ei wneud mor arbennig yw bod popeth sydd ynddo wedi'i roi yno gan bobl sy'n byw gyda dementia. Mae'n cynnwys y pethau a ddysgodd pobl sy'n byw gyda dementia wrth fynd drwy eu profiadau eu hunain, a'r problemau y daethon nhw ar eu traws. Doedden nhw ddim eisiau i bobl eraill orfod mynd drwy'r un pethau.
Felly, nid yr hyn a wnaeth hyn i mi sy'n bwysig mewn gwirionedd, oherwydd roedd hi'n rhy hwyr i mi erbyn hynny. Y peth pwysig yw'r gobaith y bydd yn helpu cannoedd o filoedd o bobl eraill.
Siaradwr 2:
Mae'r cyfan yno mewn un lle.
Siaradwr 4:
Ie, yn y llyfr cyntaf hwnnw.
Grym Mewn Gwybodaeth
Mae llyfrynnau Grym Mewn Gwybodaeth wedi'u creu gan bobl sy'n byw gyda dementia, ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia. Maent yn darparu gwybodaeth, canllawiau a chyngor ymarferol i helpu i wneud bywyd yn haws ar ôl diagnosis o ddementia.
Dewiswch y fersiwn o Grym Mewn Gwybodaeth sy'n berthnasol i chi
Grym Mewn Gwybodaeth 2
Mae llyfryn Grym Mewn Gwybodaeth 2 wedi'i greu gan bobl sy'n byw gyda dementia, ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia. Mae'n rhannu awgrymiadau a chyngor ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd i helpu i wneud byw gyda dementia yn haws, gan gefnogi pobl i fyw'n dda ar ôl diagnosis.
Archwiliwch lyfryn Grym Mewn Gwybodaeth 2
Grym Mewn Gwybodaeth i Ofalwyr
Mae llyfryn Grym Mewn Gwybodaeth i Ofalwyr wedi'i ddatblygu i gefnogi unrhyw un sy'n gofalu am berson sy'n byw gyda dementia. Mae'n cynnig gwybodaeth, canllawiau a chyngor ymarferol i helpu gofalwyr i ymdopi â heriau gofalu, gofalu am eu llesiant eu hunain, cael mynediad at gymorth a gwasanaethau, a chynllunio'n hyderus ar gyfer y dyfodol.
Archwiliwch lyfryn Grym Mewn Gwybodaeth i Ofalwyr
iSupport i Ofalwyr Dementia
Mae iSupport i Ofalwyr yn rhaglen hyfforddi a chymorth ar-lein am ddim sydd wedi'i chynllunio i helpu pobl sy'n gofalu am rywun sy'n byw gyda dementia. Mae'n cynnig cyngor ymarferol a strategaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i feithrin hyder, lleihau straen, a chefnogi llesiant gofalwyr.
Dementia a Heriau Synhwyraidd
Mae'r llyfryn Heriau Dementia a'r Synhwyrau wedi'i ddatblygu i helpu pobl sy'n byw gyda dementia a'r rhai sy'n gofalu amdanynt i ddeall yn well effaith newidiadau synhwyraidd. Mae'n darparu gwybodaeth, canllawiau a chyngor ymarferol i godi ymwybyddiaeth, cefnogi bywyd bob dydd, a chynnig gobaith ar gyfer byw'n dda gyda heriau synhwyraidd.
Archwiliwch y llyfryn Heriau Dementia a'r Synhwyrau
Busnesau a Chymunedau sy'n Gefnogol i Ddementia
Mae'r llyfryn Dod yn Fusnes a Chymuned sy'n Gefnogol i Ddementia: Canllaw Ymarferol wedi'i gyd-greu gan bobl sy'n byw gyda dementia ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n darparu gwybodaeth, canllawiau a chyngor ymarferol i helpu busnesau, sefydliadau a grwpiau cymunedol i ddeall dementia yn well, creu amgylcheddau mwy cynhwysol, a chynig cymorth hyderus i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt.