Cymuned, Rhwydweithiau a Chefnogaeth
Mae pobl sy'n byw gyda dementia a'u perthnasau sy’n gofalu amdanynt wedi bod yn cyfarfod â myfyrwyr ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor fel y “grŵp Caban” ers 2017.
Mae grŵp Caban yn gweithio'n agos gyda staff academaidd a myfyrwyr yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd ac Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i helpu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ac ymchwilwyr i ddeall beth sy'n bwysig i bobl sy'n byw gyda dementia, a'r ffordd orau i'w cefnogi.
Mae'r aelodau hefyd wedi addysgu staff iechyd a gofal cymdeithasol y presennol a’r dyfodol trwy sesiynau ymwybyddiaeth, ymgynghoriadau a chyflwyniadau mewn grwpiau bach, digwyddiadau hyfforddi a chynadleddau. Mae nhw hefyd wedi perfformio archwiliadau dementia ar gyfer lleoedd cyhoeddus fel yr Amgueddfa Llechi Genedlaethol, gan rannu eu profiadau o le i arwain at welliannau.
Mae ein haelodau’n dweud:
“Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn achubiaeth i mi. Mae gwneud sesiynau hyfforddi i fyfyrwyr yn gwneud i mi deimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth. Mae teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi a’ch bod yn cyfrannu mor
bwysig i iechyd meddwl a lles rhywun”.
“Er fy mod braidd yn amheus i ddechrau, mi wnes i fwynhau cymryd rhan mewn ymchwil ac mae'n rhywbeth rydw i’n medru ei wneud. Roeddwn i'n teimlo’n ddefnyddiol ac yn teimlo fy mod yn cyfrannu at gymdeithas eto”.
Beth allwn ei wneud?
- Ymuno â sgyrsiau gyda myfyrwyr neu ymchwilwyr.
- Helpu creu adnoddau i bobl eraill gyda dementia.
- Gall y sesiynau fod ym Mangor neu ar-lein.
- Chi fydd yn dewis faint rydych eisiau gyfrannu ac ym mha ffordd.
- Rydym yn talu costau
Mae diagnosis a phrofiad pawb o fyw gyda dementia yn wahanol. Hoffai ein myfyrwyr a’n hymchwilwyr ddysgu o'ch profiadau er mwyn deall yn well sut i'ch cefnogi i allu byw cystal â phosib gyda dementia.
Cysylltwch â Jen Roberts am sgwrs anffurfiol:
- Ffôn: +44 1248 388346
- E-bost: j.roberts@bangor.ac.uk
Mae rhwng 5% a 15% o bobl sy’n byw gyda dementia yn derbyn diagnosis o ddementia prin neu dementia sy’n cychwyn yn ifanc (cyn 65 oed). Mae diagnosis dementia prin yn dod â set o heriau unigryw a chymhleth, ond eto mae diffyg dealltwriaeth eang a phrinder adnoddau pwrpasol i gefnogi pobl sydd wedi’i heffeithio gan ddementia prin.
Ym Mangor, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain sy’n rhedeg ‘Rare Dementia Support’, gwasanaeth yn y DU sy’n gweithio i gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan bum cyflwr dementia prin (am ragor o wybodaeth gweler http://www.raredementiasupport.org/).
Ydych chi wedi cael diagnosis o ddementia prin?
Ydych chi'n gofalu am rywun â dementia prin neu'n ei gefnogi?
Ymunwch â ni ar-lein ar gyfer ein cyfarfodydd Grŵp Cymorth RDS yng Nghymru
- Cyfarfod cymdeithasol cyfeillgar i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan ddementia prin yng Nghymru
- Lle diogel i siarad, rhannu profiadau, a chysylltu ag eraill sydd wedi'u heffeithio gan ddementia prin
- Rydym yn cwrdd unwaith y mis, trwy'r platfform ar-lein Zoom
Os hoffech fynychu cyfarfod, am gyfarwyddiadau ymuno cysylltwch â:
Jen Roberts: j.roberts@bangor.ac.uk / 01248 388346
Sefydlwyd rhwydwaith dementia Gogledd Cymru (2016) gyda'r bwriad o rhannu arfer gorau, gwella cydweithrediad, a chynyddu effaith ymchwil o fewn y maes dementia.
Mae aelodaeth y rhwydwaith yn cynnwys pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr/ gefnogwyr di-dâl, staff o asiantaethau'r trydydd sector, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ac ymchwilwyr.
Mae cynnwys pobl sy'n byw gyda dementia a’u cefnogwyr wrth wraidd y rhwydwaith wedi sicrhau fod gweithgarwch y rhwydwaith yn seiliedig a’r profiadau a syniadau o lawr gwlad, gan annog cydweithredu a gosod blaenoriaethau sydd yn seiliedig ar brofiadau'r sawl sydd yn byw gyda dementia.
Tudalen Facebook Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru:
- Ymunwch: Facebook Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru
- Mae aelodau'n rhannu manylion grwpiau cymorth, dosbarthiadau, grwpiau gweithgareddau, gweithgareddau ymchwil a mwy.
I ymuno â'r rhestr e-bostio, cysylltwch: nwdementianetwork@bangor.ac.uk
- Rydym yn anfon negeseuon e-bost achlysurol i rannu gwybodaeth a gweithgareddau pwysig (e.e., cyfleoedd ymchwil, ymgynghoriadau, cynadleddau)
- Mae gwahoddiadau i gynadleddau a gynhelir gan Ganolfan Ymchwil CDGD Cymru yn cael eu rhannu drwy'r rhestr e-bostio yma.