Project Headsprout Early Reading mewn Ysgolion Arbennig (HERiSS)

Mae Headsprout Early Reading yn canolbwyntio ar feithrin rhuglder mewn sgiliau darllen cynnar hanfodol (megis datgodio ac asio) trwy ddarparu cyfarwyddyd ffoneg eglur a rhoi llawer o gyfleoedd i blant ymarfer, nes bod sgiliau'n dod yn rhugl.

3 gwaith yr wythnos, mae disgyblion yn gweithio trwy weithgareddau mewn rhaglen gyfrifiadurol sy'n addasu cyfarwyddyd mewn ymateb i'w hatebion. Mae 80 o wersi ac, yn dibynnu ar blant unigol a'u hanghenion, mae sesiynau fel rheol yn cymryd rhwng 10 a 30 munud.

Mae ymarferion rhuglder un i un ychwanegol hefyd yn cael eu cyflwyno i rai disgyblion yn ychwanegol at y cyfarwyddyd cyfrifiadurol.

Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal diwrnod o hyfforddiant cychwynnol gyda 3 aelod staff o bob ysgol.

Darperir cefnogaeth weithredol barhaus gan dîm Bangor trwy gyfuniad o ymweliadau ag ysgolion a chymorth ar y ffôn.

Bydd llawlyfr cymorth gweithredu ar gyfer defnyddio HER gyda disgyblion ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau hefyd yn cael ei ddarparu i gefnogi ymhellach weithredu o ansawdd uchel.

Caiff ysgolion sy'n cymryd rhan eu dewis ar hap naill ai i Headsprout gyda hyd at 15 o ddisgyblion, neu i barhau â'ch gweithgareddau llythrennedd arferol. Bydd sgiliau darllen yr holl ddisgyblion sy'n cymryd rhan yn cael eu mesur cyn ac ar ôl yr ymyrraeth

Ydych chi'n dysgu plant yng Nghyfnod Allweddol 1 neu 2 mewn ysgol arbennig?

A yw'ch ysgol wedi'i lleoli yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr neu Ogledd Orllewin Lloegr?

Os felly, fe allech chi gymryd rhan yn y project HERiSS!

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am gymryd rhan yn y project hwn, cofiwch naill ai gofrestru trwy'r ffurflen ar-lein isod, neu cysylltwch â'r tîm cyflwyno yn uniongyrchol.

Cofrestrwch i gael mwy o wybodaeth yma

Cysylltwch â ni: Emily Roberts-Tyler ( e.j.tyler@bangor.ac.uk / 01248 383962)
Dilynwch ni ar twitter: @HERiSSproject

 

Swyddogaethau yn y project

Prifysgol Bangor yw'r tîm sy'n cyflwyno'r project HERiSS, a byddant yn gyfrifol am recriwtio ysgolion i gymryd rhan yn yr astudiaeth, yn ogystal â darparu'r hyfforddiant a'r gefnogaeth weithredu barhaus i'r ysgolion sy'n cyflwyno Headsprout yn ystod cyfnod yr astudiaeth.

Penodwyd CEDAR, Prifysgol Warwick gan EEF fel y gwerthuswyr annibynnol ar gyfer y project, a byddant yn gyfrifol am gynnal asesiadau darllen a dadansoddi data'r prawf.

Dr Emily Roberts-Tyler - arweinydd tîm cyflwyno - Mae gan Emily 10 mlynedd o brofiad yn cynnal ymchwil addysgol gymhwysol ac mae wedi cyhoeddi ymchwil yn gwerthuso Headsprout Early Reading (HER) ar draws lleoliadau addysgol amrywiol, gan gynnwys ysgolion arbennig. Mae ganddi gyfoeth o brofiad o weithio'n agos gydag ysgolion i helpu i weithredu ymyriadau addysgol o ansawdd uchel.

Grŵp ymgynghorol: Yr Athro Carl Hughes (Prifysgol Bangor), Dr Corinna Grindle (ymgynghorydd annibynnol), a Dr Claire McDowell (Prifysgol Ulster)

Yr Athro Hughes yw Pennaeth yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol, a Chyfarwyddwr y Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddo brofiad ac arbenigedd sylweddol mewn gwerthuso strategaethau addysgol ar sail tystiolaeth mewn addysg brif ffrwd ac addysg arbennig.

Rhyngddynt mae gan Dr Grindle a Dr McDowell oddeutu 50 mlynedd o brofiad  fel ymarferwyr ac ymchwilwyr ym maes addysg ac anableddau datblygiadol. Maent wedi ymwneud ag ymchwil yn gwerthuso HER a rhaglenni llythrennedd eraill ar draws ystod o leoliadau a dysgwyr.

Yn ystod blwyddyn y treial, bydd gennym hefyd rai swyddogion cymorth gweithredu i weithio'n uniongyrchol gydag ysgolion a bennwyd i ddarparu Headsprout.

Plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau:

Grindle et al., (2013) http://dx.doi.org/10.1002/bin.1364

Tyler, E. J., Hughes, J. C., Williams, B. M., Wilson, M. M., Beverley, M., & Hastings, R. P. (2015b). Teaching early reading skills to children with Intellectual Disabilities using computer-delivered instruction: A pilot study. Journal of International Special Needs Education   http://dx.doi.org/10.9782/2159-4341-18.1.1

Roberts-Tyler, E. J., Hughes, J. C., Hastings, R. P. (2019). Evaluating a computer‐based reading programme with children with Intellectual Disabilities: feasibility and pilot research. Journal of Research in Special Educational Needs, https://doi.org/10.1111/1471-3802.12458

Grindle, C., Tyler, E., Murray, C., Hastings, R. P., & Lovell, M. (2019). Parent-mediated online reading intervention for children with Down Syndrome. Support for learning, 34, 2, 211-230

Plant mewn ysgolion prif ffrwd:

Tyler, E. J., Hughes, J. C., Beverley, M., & Hastings, R. P. Improving early reading skills for beginning readers using an online programme as supplementary instruction. European Journal of Psychology of Education (2015b) http://dx.doi.org/10.1007/s10212-014-0240-7

Watkins, R., Hulson-Jones, A. L., Tyler, E. J., Beverley, M., Hughes, J. C., & Hastings, R. P. (2016). Evaluation of an online reading programme to improve pupils' reading skills in primary schools: Outcomes from two implementation studies. Wales Journal of Education

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?