Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Elgar Cello Concerto
Andrew Lewis In Memory [Premiere Byd]
Elgar Cello Concerto
Mendelssohn Symffoni Rhif 3 ‘Albanaidd’
-
Gergely Madaras arweinydd
Santiago Cañón-Valencia soddgrwth
Mae In Memory Andrew Lewis yn fyfyrdod ar fywyd gyda dementia, a phrofiadau’r rheini sy’n gofalu amdanynt. Mae dyfyniadau o sgyrsiau wedi’u recordio gyda theulu sy’n ofalwyr yn rhan o wead y darn – yn ffurfio ei alawon, ei harmonïau a’i rythmau. Mae alawon rhapsodïaidd gyda chyfeiriadau fizzicato yn arwain y ffordd tuag at feistrolaeth a bravado Prydeinig yng Nghoncerto i’r Soddgrwth poblogaidd Elgar, er nad yw ei sarugrwydd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf byth yn bell o’r wyneb, gyda themâu pendant ond grymus, egni sionc a rhinweddau myfyriol.
O ddatblygiadau stormus a scherzo sionc i berseinedd sentimental a naws ysgafn tebyg i’r un yn Midsummer Night's Dream, cafodd Trydedd symffoni Mendelssohn ei hysbrydoli gan daith y cyfansoddwr i'r Alban nôl yn 1829. Wedi’i nodweddu gan egni ffyrnig, cyfalaw gyfrwys a nodweddion darluniadol byw, brasluniodd Mendelssohn rhan fwyaf o’i waith yn dilyn ei daith i ymweld ag adfeilion Palas Holyrood, er iddo beidio â chwblhau'r gwaith am dros 10 mlynedd yn ddiweddarach. Mae’n bleser gennym gyflwyno cynulleidfaoedd ledled Cymru i’r arweinydd Hwngaraidd hynod dalentog, Gergely Madaras.
