Gardd Fotaneg Treborth Lle Gwych i Arloesi
Mae Gardd Fotaneg Treborth yn rhoi cyfle unigryw i sefydliadau allanol gydweithio mewn amgylchedd deinamig, seiliedig ar ymchwil, ar lannau’r Fenai. Gan ymestyn dros 18 hectar, mae'r safle'n cefnogi arloesedd mewn gwyddor planhigion, cadwraeth, addysg amgylcheddol, ac ymgysylltu cymunedol, gyda chasgliadau a chyfleusterau sydd wedi'u hachredu'n rhyngwladol wedi'u cynllunio ar gyfer ymchwil sylfaenol a chymhwysol.
Mae adnoddau'r ardd yn cynnwys chwe thŷ gwydr hinsoddol—ar gyfer planhigion trofannol, tegeiriannau, tymherus, cigysol, oer, ac india-corn—ochr yn ochr â chasgliadau byw amrywiol o degeirianau, planhigion suddlon, a rhywogaethau cigysol a throfannol. Mae asedau awyr agored yn amrywio o goetir ac arboretwm gyda statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig i ddolydd blodau gwyllt, pyllau, ecosystemau arfordirol, a pherllan dreftadaeth. Mae seilwaith arbenigol fel labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (rhisotron), labordy addysgu pwrpasol, a systemau monitro meteorolegol yn galluogi astudiaethau uwch o brosesau tanddaearol i ficrohinsoddau canopïau. Gyda'i gilydd, mae'r cyfleusterau hyn yn cynnig cyfrwng grymus i fusnesau a sefydliadau ar gyfer ymchwil a datblygu cydweithredol sy’n creu effaith ymarferol wirioneddol.
Manteision Cydweithio â Gardd Fotaneg Treborth
Labordy byw: Mae cynefinoedd a chasgliadau planhigion amrywiol yn galluogi profi strategaethau plannu, cadwraeth neu reoli amgylcheddol yn y fan a'r lle.
Rhagoriaeth achrededig: Wedi'i gydnabod gan Botanic Gardens Conservation International am safonau uchel mewn casgliadau, cadwraeth, ymchwil ac allgymorth cyhoeddus.
Canolfan addysg ac allgymorth: Lleoliad delfrydol ar gyfer gweithdai, hyfforddiant, gwyddoniaeth dinasyddion, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a meithrin gallu.
Integreiddio cymunedol: Mae rhwydwaith gwirfoddolwyr cryf, partneriaethau gydag ysgolion, a mentrau dan arweiniad myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd cyd-gynhyrchu dilys a gwerth cymdeithasol.
Cyllid a chyfleoedd chydweithio Mynediad at grantiau a mentrau mewn cadwraeth, lles, a dysgu yn yr awyr agored (e.e. Buddsoddi mewn Coetiroedd, Cronfa Dreftadaeth, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru).