Taliadau Ffi - Cartref/Iwerddon

TALU FFIOEDD - DYSGU A NEUADDAU 2023/2024

Mae’r holl ffioedd dysgu a ffioedd llety’n daladwy’n llawn cyn ichi gwblhau’r drefn gofrestru, oni bai eich bod yn dewis talu eich ffioedd trwy gynllun talu sy’n berthnasol i’ch statws fel myfyriwr er mwyn rhannu’r gost yn gyfartal trwy’r flwyddyn.

Os ydych wedi gwneud cais am fenthyciad tuag at ffioedd dysgu, telir hwn yn uniongyrchol i’r Brifysgol. Fodd bynnag, bydd gofyn ichi dalu eich ffi am Lety Prifysgol.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?