Beth Yw TalkCampus?
Mae TalkCampus yn gymuned myfyrwyr ddiogel lle gallwch siarad am beth bynnag sydd ar eich meddwl. Nid yw bywyd bob amser yn hawdd ac ni ddylai unrhyw un frwydro ar ei ben ei hun. Dyma eich lle i rannu'r pethau da a'r pethau drwg, unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.
Os rydych yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, gallwch ymuno â miliynau o fyfyrwyr eraill ledled y byd i dderbyn neu roi cefnogaeth ar unwaith. Mae'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac yn gwbl ddienw.
Sut I Ymuno  TalkCampus?
- Lawrlwytho TalkCampus
- Cofrestru gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol Bangor. Bydd angen i chi ddilysu eich cyfrif (dim ond unwaith y bydd angen gwneud hyn).
Cymerwch funud i gofrestru nawr, cewch weld beth mae myfyrwyr eraill yn ei bostio a chysylltu heddiw.