Fy ngwlad:
""

Nid yn unig y mae’r newid yn yr hinsawdd yn newid ein hamgylchedd - mae'n newid ein tirwedd ddiwylliannol hefyd. Wrth i’n safleoedd treftadaeth frwydro yn erbyn effeithiau tân, lefelau’r môr yn codi a stormydd, cymunedau’n wynebu dadleoliad, traddodiadau’n pylu, ac ieithoedd yn dirywio, nid yn unig y mae perygl o golli ein safleoedd hanesyddol, gallem golli’r dreftadaeth sy’n ein diffinio hefyd yn wyneb homogeneiddio byd-eang. Bydd y ddarlith yn archwilio sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn amharu ar barhad diwylliannol, trwy erydu hanesion llafar a cholli traddodiadau sy’n perthyn i leoedd. Trwy astudiaethau achos byd-eang, byddwn yn archwilio gwytnwch treftadaeth yn wyneb argyfwng ac yn trafod yr hyn y gellir ei wneud i ddiogelu'r straeon, yr wybodaeth, a'r arferion sy'n ein cysylltu â'r gorffennol. Sut gallwn ni arbed y byd sydd ohoni rhag mynd yn 'Fyd Coll?"