Mae erthygl ymchwil newydd wedi’i hadolygu gan gymheiriaid gan dîm Polisi Cymdeithasol a Seicoleg Gymdeithasol Prifysgol Bangor wedi’i chyhoeddi yn y cyfnodolyn Global Social Challenges. Cyhoeddwyd yr astudiaeth, o’r enw, 'Ghanaian Political Perspectives on Universal Basic Income as a Poverty Reduction Strategy', gan fyfyrwraig PhD Stella Nyame (née Gabuljah) a’r Dr Hefin Gwilym, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol.

Mae’r ymchwil yn archwilio sut mae gwleidyddion Ghana yn canfod Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI) fel dull posibl o leihau tlodi. Gan ddefnyddio ymchwil gynradd sy’n cynnwys arolwg o Aelodau Senedd Ghana, mae’r astudiaeth yn cynnig cipolwg unigryw ar agweddau gwleidyddol tuag at UBI mewn cyd-destun cenedlaethol nad yw wedi derbyn llawer o sylw academaidd hyd yma.
Canmolodd un o’r adolygwyr dienw yr erthygl fel 'cyfraniad defnyddiol ac amserol iawn i’r llenyddiaeth, gan nad yw Ghana wedi’i chynnwys yn sylweddol yn y drafodaeth am Incwm Sylfaenol. Mae’r papur yn cyflwyno ymchwil gynradd gyda llunwyr polisïau ar lefel uchel, ac felly mae gan y canfyddiadau’r potensial i fod yn hynod ddylanwadol'.
Cafodd yr erthygl ei chyhoeddi yn Global Social Challenges, cyfnodolyn uchel ei fri gyda ffactor effaith o 3.6 (2024). Mae’r gwaith yn tynnu sylw at berthnasedd cynyddol trafodaethau byd-eang ar UBI y tu hwnt i gyd-destunau Gorllewinol, ac yn tanlinellu cyfraniad parhaus Prifysgol Bangor i ymchwil polisi cymdeithasol a lleihau tlodi ar lefel ryngwladol.