Nos Fawrth diwethaf, daeth staff, myfyrwyr, a gwesteion gwadd ynghyd i ddathlu cyflawniadau Project Fodlediadau 2025 eleni mewn digwyddiad gwobrwyo arbennig.
Mae myfyrwyr wedi bod wrthi'r semester hwn yn gweithio mewn timau rhyngddisgyblaethol i ddatblygu sianeli podlediadau fideo (fodlediadau) wedi’u cynllunio i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol sy'n ystyried astudio mewn prifysgol yn y Deyrnas Unedig. Roedd y project allgyrsiol hwn yn her i bob tîm i nodi a chynhyrchu cynnwys a fyddai’n addysgiadol, yn ddiddorol, ac yn berthnasol i gynulleidfa fyd-eang.
Fel rhan o'r broses, aeth myfyrwyr ati i wneud ymchwil marchnad fyw trwy fideo-gynadledda gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain. Cawsant hyfforddiant hefyd mewn ymchwil marchnad, cynhyrchu fideo, ymwybyddiaeth ddiwylliannol, a defnydd moesegol o’r cyfryngau cymdeithasol, a gyflwynwyd gan staff Prifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol gwadd. Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd Matt Robinson, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor ac Is-lywydd Marchnata Byd-eang yn Autone, a arweiniodd sesiwn ar greu cynnwys diddorol, a Shoned Owen, sef Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Tanya Whitebits, a gynigiodd gyngor gwerthfawr ar optimeiddio ymgysylltiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Lansiodd y timau o fyfyrwyr eu sianeli fodlediadau’n swyddogol ar 8 Ebrill ac aethant ati i hyrwyddo eu cynnwys ar gyfer y digwyddiad gwobrwyo terfynol.
Yn y digwyddiad terfynol, cyflwynodd y myfyrwyr eu gwaith i banel o weithwyr proffesiynol marchnata. Diolch yn fawr iawn i aelodau ein rheithgor: Tracey Roberts, Tim McCann, Shoned Owen, a Sion Owen (M-SParc). Wrth ddewis y tîm buddugol, roedd y beirniaid yn ystyried apêl weledol, hunaniaeth y sianel, ac ymgysylltiad y gynulleidfa.
Llongyfarchiadau i enillwyr Project Fodlediadau 2025, Jasmine Cochrane a Suzuka Mori o GLOBTROTTERSBANGOR! Gallwch weld eu sianeli yma: 📱 TikTok ac📸 Instagram.
Fel rhan o'u gwobr, mae Jasmine a Suzuka wedi cael interniaethau ym Mhrifysgol Bangor. Dyma beth oedd ganddynt i'w ddweud am eu profiad o’r project:
“Roedd ein profiad o wneud Fodlediadau’n foddhaol iawn. Cawsom gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd y gallwn eu defnyddio yn ein gyrfaoedd marchnata. Roedd yn bleser gweithio gyda phobl o wahanol wledydd ac arbenigeddau. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ein interniaethau y flwyddyn nesaf - rydym wedi gweithio'n galed am y cyfle hwn. Roedd ein mentoriaid yn gyfeillgar, yn gymwynasgar, ac roedd gweithio gyda nhw’n brofiad anhygoel!”
Enillwyr Gwobr Dewis y Gynulleidfa oedd Esthera Amegashie a Miki Nishikawa o Team ME (UKnighted). Cymerwch gip ar eu sianel yma: 📸 Instagram
Rhannodd Esthera a Miki eu barn ar gymryd rhan:
“Roedd gweithio ar y project hwn yn brofiad anhygoel. Cawson y cyfle i gysylltu â phobl anhygoel a dysgu gwersi gwirioneddol amhrisiadwy. Fe wnaethon ennill cyfoeth o wybodaeth a phrofiad a fydd yn sicr o helpu i lywio ein dyfodol.”
Mae'r holl sianeli a grëwyd gan fyfyrwyr wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth gyflwyno cynnwys dilys, dan arweiniad myfyrwyr. Llongyfarchiadau i bob tîm am eu gwaith caled, eu creadigrwydd a'u proffesiynoldeb drwy gydol y project.
Tîm Project Fodlediadau 2025 yw Dr Lindsay Jones, Dr Steffan Thomas, Dr Eben Muse, Gwen Glyn, Carol Jones, Dafydd Pattinson, Stephanie Steventon, a Rhian Thomas.