Canolfan Bedwyr enillodd y wobr am dorri tir, categori sy'n dathlu ymchwil a datblygiad rhagorol yn y sector creadigol a digidol. Cafodd Canolfan Bedwyr gydnabyddiaeth am ei gwaith yn hyrwyddo deallusrwydd artiffisial yn y Gymraeg, gan gynnwys datblygu rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau, cyfieithu peirianyddol a Macsen, cynorthwyydd llais. Mae'r gwaith arloesol hwn yn cefnogi datblygiad technoleg iaith Gymraeg ac yn cryfhau'r ecosystem ddigidol ledled gogledd Cymru.
Cyflwynwyd gwobr seren y sector i Carol Ann Jones, Rheolwr Academi Sgrin Cymru yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, i gydnabod ei harweinyddiaeth a'i hymroddiad i ddatblygu sgiliau a chefnogi cydweithio yn y diwydiant ffilm a sgrin.
Meddai Carol, “Mae’n fraint arbennig derbyn y wobr hon ar ran yr Academi Sgrin. Rwy'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth y mae'r academi'n ei chael gan y sector, gan weithwyr llawrydd sy'n cydweithio â ni, ac rydym yn deall pwysigrwydd y 'rhwydwaith' yn y rhanbarth. Noson wych.”
Cafodd Daniel Williams, a benodwyd yn Gynhyrchydd Cynnwys Digidol yn y tîm Marchnata Brand yn ddiweddar, hefyd gydnabyddiaeth ar y noson, gan ddod yn ail yn y categori seren y dyfodol am waith a wnaeth yn ei hen swydd yn M-SParc.
Yn ogystal, aeth y wobr am seren newydd i Begw Elain, sydd yn nhrydedd flwyddyn cwrs gradd yn y Gymraeg a Newyddiaduraeth.
Meddai’r Athro Ruth McElroy, Pennaeth yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, “Mae hwn yn gydnabyddiaeth gwbl haeddiannol am y gwaith trawsnewidiol y mae Prifysgol Bangor yn ei wneud yn economi creadigol ein rhanbarth. Rwy'n hynod falch o lwyddiant Carol a Begw ac yn falch iawn o weld ein cydweithwyr yng Nghanolfan Bedwyr a Daniel yn cael eu dathlu am eu gwaith arloesol a'u talent. Mae eu llwyddiant yn ymestyn at allan, ac yn ysbrydoli pobl ifanc yng ngogledd Cymru i ystyried gyrfa yn y diwydiannau creadigol lle gallant ffynnu.”
Dysgwch fwy am Ogledd Creadigol a'i rwydwaith o ymarferwyr creadigol ar wefan Gogledd Creadigol.