Fy ngwlad:
Hammad Rind

Myfyriwr yn astudio am ei ddoethuriaeth yn y Gymraeg ar ôl dysgu’r iaith am ddwy flynedd.

Ar ôl dysgu Cymraeg am ddwy flynedd, roedd Hammad Rind yn rhugl ac mi lwyddodd i ennill Ysgoloriaeth i wneud doethuriaeth yn y Gymraeg dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae Hammad wedi bod yn astudio am ei ddoethuriaeth yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor ers mis Hydref 2025, a’i bwnc ymchwil ydy cymharu traddodiadau marwnad yn y Gymraeg, Perseg, ac Wrdw.