Fy ngwlad:
Learned Society of Wales logo on white background

Tri academydd yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cyhoeddi bod tri academydd o Brifysgol Bangor ymhlith y 44 Cymrodyr newydd a etholwyd i'r Gymdeithas, gyda phob un ohonynt yn cynrychioli'r gorau o fywyd academaidd, diwylliannol a dinesig Cymru.    

Ymysg y rhai sy’n aelodau newydd mae:    

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth. Mae pob un o’r Cymrodyr wedi gwneud cyfraniad pwysig i fyd dysg ac mae ganddynt oll gysylltiad amlwg â Chymru.   

Mae’n anrhydedd cael fy ethol yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi gwyddonwyr Cymru ac at hyrwyddo’r cyfraniad y gall gwyddoniaeth DNA amgylcheddol at fioamrywiaeth ei wneud i fynd i’r afael â heriau iechyd ecosystemau, yng Nghymru ac ar draws y byd.

Yr Athro Simon Creer,  Athro mewn Ecoleg Foleciwlaidd

Mae'r Athro Creer yn arweinydd byd-eang o ran defnyddio dilyniannu trwybwn uchel i asesu bioamrywiaeth ar draws y goeden fywyd drwy bïomau amrywiol.

Mae ganddo lefel uchel o ddealltwriaeth o ddynameg gofod-amser DNA amgylcheddol, yn deillio o fioamrywiaeth amgylcheddau morol, morydol, dŵr croyw, daearol a'r awyr, gyda rhagor o ddealltwriaeth yn deillio o beillwyr a rhyngweithiadau troffig.

Ei nod yw deall priodweddau sy’n dod i’r amlwg sy'n ymwneud ag iechyd amgylcheddol a dynol.

Rwy’n falch iawn o fod wedi cael dyfarnu’r Gymrodoriaeth hon, ac edrychaf ymlaen at gyfrannu at hyrwyddo a datblygu cymuned ymchwil ac arloesi Cymru, yn ogystal â helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Cymru a’r byd ehangach.

Yr Athro Judy Hutchings,  Athro mewn Seicoleg

Mae'r Athro Hutchings wedi gweithio yng Nghymru fel seicolegydd clinigol plant i'r GIG ers 1976, ac ers 1988, fel ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi'n datblygu, yn cyflwyno a gwerthuso rhaglenni rhianta a rhaglenni yn yr ysgol i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant.

Mae ei hymchwil wedi cyfrannu at bolisi ymyrraeth gynnar yng Nghymru, y DU ac yng ngwledydd De'r Byd.

Mae hi wedi dal grantiau o £5m+, wedi goruchwylio llawer o fyfyrwyr ôl-radd ac wedi cyhoeddi'n helaeth ar gyflwyno ymyriadau effeithiol i rieni ac ysgolion.

Rwy’n hynod o anrhydeddus o gael fy ethol yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, ac yn edrych ymlaen at gefnogi ei gwaith hanfodol i hyrwyddo gwybodaeth, cefnogi ymchwil, a chyfrannu at fywyd deallusol a diwylliannol Cymru.

Dr Iwan Llewelyn-Jones,  Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Perfformio Cerddorol

Mae Dr Llewelyn-Jones yn cael ei gydnabod fel un o bianyddion ac addysgwyr cerddoriaeth blaenllaw Cymru.

Mae'n raddedig o Brifysgol Rhydychen, Coleg Brenhinol Cerdd, Prifysgol Caerdydd ac Université de Paris-Sorbonne, ac mae wedi perfformio'n rhyngwladol mewn lleoliadau mawr gan gynnwys Neuadd Wigmore a Thŷ Opera Sydney.

Mae wedi gwneud cyfraniad rhagorol i fywyd ac addysg gerddorol Cymru, yn enwedig fel Cyfarwyddwr Perfformio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 2010, ac mae’n tynnu ar gryfderau sylweddol o dros 700 o Gymrodyr nodedig yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Drwy ddod â’r Cymrodyr mwyaf llwyddiannus a thalentog sy’n gysylltiedig â Chymru at ei gilydd, mae’r Gymdeithas Ddysgedig yn cyfrannu at ddatblygu a hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, gan ddarparu cyngor arbenigol ac annibynnol i’r Llywodraeth.