Yr hyn a gynigiwn
Ymchwil, Ymgynghoriaeth a Hyfforddiant Pwrpasol
Yn IPEP, rydym yn darparu ymchwil, ymgynghoriaeth, a hyfforddiant pwrpasol i unigolion, grwpiau a sefydliadau.
Mae ein gwasanaethau wedi'u cynllunio i ddiwallu eich anghenion - p'un a ydych yn unigolyn sy'n anelu at eich perfformiad gorau posibl, yn dîm sy'n edrych i wella cydweithredu, neu'n sefydliad sy'n anelu at ddatblygu diwylliant perfformiad uchel. Cymerwn ymagwedd ar sail tystiolaeth, gan sicrhau bod ein holl waith wedi’i wreiddio mewn theori seicolegol ac ymchwil, gan gyflwyno atebion ymarferol o ansawdd uchel wedi'u teilwra i'ch heriau penodol.
Sut Gallwn Eich Helpu
Sefydliadau: Creu Amgylcheddau Perfformiad Uchel
Rydym yn helpu sefydliadau adeiladu diwylliannau effeithiol drwy ddarparu gwasanaeth ymgynghori a hyfforddiant arbenigol. Mae ein dull gweithredu yn cynnwys:
✔ Eich helpu i ddiffinio a chyflawni eich gweledigaeth
✔ Cefnogi a herio arweinwyr i ddatblygu eu timau
✔ Rhoi'r offer seicoleg perfformiad i bersonél allweddol (e.e. rheolwyr, hyfforddwyr) i wella ymarfer dyddiol.
Grwpiau: Gwella Dynameg Tîm a Lles
Rydym yn gweithio gyda grwpiau o bob maint, o dimau chwaraeon i unedau milwrol, i wella cydlyniad tîm, hyder, a pherfformiad. Mae ein cefnogaeth yn cynnwys:
- Gweithdai rhyngweithiol ar bynciau fel cydlyniad tîm a gwytnwch
- Cymell a mentora ar gyfer arweinwyr, gan eu galluogi i ymgorffori strategaethau seicolegol yn eu dull gweithredu
Unigolion: Cyflawni Perfformiad Gorau Posibl
Rydym yn darparu ymgynghoriaeth un i un i helpu unigolion:
✔ Ddatblygu gwytnwch meddwl a hyder
✔ Gwella effeithiolrwydd hyfforddiant a pherfformiad
✔ Gwella lles seicolegol
Gyda phwy rydym yn gweithio
Y tu hwnt i wneud ymchwil flaengar, mae IPEP yn cyflwyno effaith byd go iawn trwy gydweithrediadau proffil uchel ar draws meysydd chwaraeon, busnes a pherfformiad.
Enghreifftiau o'n Projectau sy’n Cael Effaith:
- Optimeiddio Perfformiad Dan Bwysau – Criced Lloegr
- Datblygodd IPEP rhaglenni hyfforddiant pwysau pwrpasol i gricedwyr gorau Lloegr, gan eu helpu i berfformio ar eu gorau ar adegau tyngedfennol. Cyfrannodd y dull hwn at fuddugoliaeth hanesyddol Cwpan Criced y Byd 2019 Lloegr.
- Gwella Diogelwch Gyrwyr - Hyfforddiant Golwg Niwlog
- Bu i’n hymchwil i ganfyddiad peryglon mewn gyrwyr newydd arwain at raglen hyfforddi arloesol sy'n gwella amseroedd ymateb gan ddefnyddio niwlio maes gweledol cynnil. Mae’r gwaith hwn, a ariennir gan AXA a’r ESRC, bellach yn cael ei gymhwyso mewn rhaglenni hyfforddi canfyddiad peryglon.
- Project ‘Great British Medalists’ - Deall Llwyddiant Elît
- Wedi'i chomisiynu gan UK Sport, archwiliodd yr astudiaeth hon y ffactorau seicolegol sy'n gosod enillwyr medalau aur Olympaidd a Phencampwriaeth y Byd Uwch-Elît ar wahân i athletwyr elît eraill.
- Datblygu Hyfforddwyr Perfformiad Uchel yng Nghymru
- Ers 2006, mae IPEP wedi bod yn siapio hyfforddi chwaraeon elît yng Nghymru, gan ddefnyddio dulliau gweithredu newydd i uwchsgilio hyfforddwyr lefel uchel, mewn cydweithrediad â Chwaraeon Cymru.
- Gwytnwch Meddyliol - Pontio Gwyddoniaeth a Chymhwysiad
- Mae ein hymchwil i Wytnwch Meddyliol wedi helpu i fireinio rhaglenni hyfforddi mewn criced proffesiynol, rygbi, nofio, a'r fyddin, gan gynnig dull gweithredu a gefnogir gan wyddoniaeth at wytnwch a pherfformiad.
- Mae IPEP yn parhau i siapio seicoleg perfformiad ledled y byd, gan sicrhau bod ein hymchwil yn trosi i atebion ymarferol, effaith uchel.
- Eisiau archwilio sut y gallwn gefnogi eich sefydliad? Cysylltwch â ni heddiw i drafod cydweithrediadau ymchwil, ymgynghoriaeth, neu gyfleoedd hyfforddi pwrpasol.