Fy ngwlad:

MSc a Micro-gymwysterau

MSc Seicoleg Perfformiad (Dysgu o Bell)

Mae IPEP yn falch o gynnig rhaglen MSc ran amser ar-lein (dysgu o bell) gyntaf y Deyrnas Unedig mewn Seicoleg Perfformiad. Mae’r cwrs hwn yn gyfan gwbl ar-lein ac mae wedi denu ymgeiswyr o bob rhan o’r byd ac o amrywiaeth eang o gefndiroedd gan gynnwys chwaraeon elitaidd, busnes, y celfyddydau perfformio a’r lluoedd arfog. Caiff y cwrs ei gynllunio a'i gyflwyno gan staff IPEP gyda'r nod penodol o helpu'r rhai sy'n cofrestru i gael y gorau allan o'u hunain ac eraill mewn unrhyw faes perfformiad uchel.

Seicoleg Perfformio (Dysgu o Bell Ar-lein yn Rhan-amser) MSc

Mae'r cyhoeddiadau enghreifftiol yn ein hadran Ymchwil yn rhoi sampl o’r math o ddeunydd sy’n cael sylw ar y modiwlau o fewn y cwrs hwn a gellir ei ddefnyddio fel ffynhonnell darllen paratoadol (dewisol) i’r rhai sydd eisoes wedi cofrestru.

Cyrsiau micro-gymwysterau

Ddim yn barod i ymrwymo i'r MSc llawn? Mae ein micro-gymwysterau yn darparu ffordd hyblyg a hygyrch i ddatblygu eich sgiliau ac archwilio seicoleg perfformiad cyn cofrestru ar gyfer y radd lawn. Mae pob modiwl yn gwrs byr annibynnol, sy’n eich galluogi i:
 

  • Ennill gwybodaeth fanwl am bwnc penodol
  • Astudio ar eich cyflymder eich hun, 100% ar-lein
  • Profi dysgu ar lefel meistr cyn ymrwymo i'r radd lawn