Prif swyddogaeth y tîm cyn-dyfarnu yw cefnogi'r gymuned ymchwil i ddatblygu cynigion sy’n ymwneud ag ymchwil ac ymgynghoriaeth. Y cysylltiadau allweddol yw Prif Ymchwilwyr (PY) a’u timau ymchwil, arweinwyr a gweinyddwyr colegau ac ysgolion a gweinyddwyr a thimau gwasanaethau proffesiynol craidd eraill IRIS a ledled y brifysgol (er enghraifft y tîm Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu a’r Swyddfa Gyllid).
Darpariaeth y Gwasanaethau
Gall IRIS ychwanegu gwerth a gwella ansawdd gyffredinol y cais
- Nodi gofynion y cyllidwyr allweddol, a sicrhau cydymffurfiaeth i gynyddu'r siawns o lwyddo.
- Cynorthwyo gyda pharatoi cyllideb, y dogfennau cysylltiedig a ffurflenni cyflwyno cynigion gyda chronfa ddata Worktribe.
- Cefnogi fel bo'n briodol gyda pharatoi ffurflenni gweinyddol y noddwyr e.e. cofrestru a defnyddio systemau cyllidwyr ar-lein.
- Cefnogi'r Prif Ymchwilydd a'r tîm i reoli rhanddeiliaid gyda phartneriaid i sicrhau cyllidebau cywir a gwybodaeth ynghylch diwydrwydd dyladwy.
- Asesu diwydrwydd dyladwy cychwynnol cyn-dyfarnu, a sicrhau bod materion sy’n ymwneud â rheoleiddio a rheoli allforio’n cael eu nodi.
- Cefnogaeth i nodi gofynion rheoli data a seilwaith Technoleg Gwybodaeth sy’n ymwneud â'r project.
- Gwneud yn fawr o'r adnoddau a chynllunio ar gyfer arloesedd ymchwil, effaith ac elfennau rhyngddisgyblaethol y cynnig a'r gyllideb.
- Cefnogaeth i adnabod a diogelu Eiddo Deallusol
- Gweithredu fel pwynt canolog i gyfeirio pobl at Wasanaethau Proffesiynol eraill megis yr Adnoddau Dynol, Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Iechyd a Diogelwch.
- Darparu cefnogaeth estynedig i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa neu Brif Ymchwilwyr sydd angen timau rhyngddisgyblaethol mewn partneriaeth â mentora academaidd.
- Adolygu'r cynnig terfynol i sicrhau bod yr holl ofynion gweinyddol wedi'u bodloni a gwneud yn fawr o’r llwybrau sy’n arwain at effaith.
- Sicrhau cymeradwyaeth academaidd a sefydliadol e.e. gan Bennaeth yr Ysgol a Datganiad o Gefnogaeth y brifysgol fel bo angen.
Llinell Amser y Broses
Ein haddewid ynghylch prosesu cynigion â blaenoriaeth
Er mwyn manteisio'n llawn ar wasanaethau gwerth ychwanegol y tîm cyn-dyfarnu i sicrhau'r siawns orau o lwyddo gyda'r ceisiadau, rhaid i Brif Ymchwilwyr ddilyn y llinellau amser sydd yn y tabl isod.
Tabl 1. Isafswm amser ar gyfer sicrhau cefnogaeth cyn-dyfarnu i ddatblygu a chyflwyno grantiau ymchwil.
Y Prif Ymchwilwyr i roi hysbysiad cychwynnol o'r cais, manylion llawn y cyllidwyr, y partneriaid a'u dyddiadau cau neilltuol. Digon o wybodaeth er mwyn dechrau datblygu cyllideb ac asesu diwydrwydd dyladwy. | O leiaf 3 wythnos (15 diwrnod gwaith) |
Mae angen mwy o amser i gyflwyno cynigion cymhleth a mwy o faint. Rydym yn cynghori pawb i hysbysu IRIS cyn gynted â phosibl (e.e. trafferth o ran adennill Costau Economaidd Llawn lle bo angen cymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol, neu gynigion cydweithredol mawr). | O leiaf 4 wythnos (20 diwrnod gwaith) |
Y cynnig drafft terfynol a’r gyllideb. Os mai dyma'r tro cyntaf i IRIS weld manylion y project, ni fydd yn bosib gwneud dim mwy na gwiriadau sylfaenol | O leiaf wythnos (5 diwrnod gwaith) |
| Cyflwyno’r dogfennau terfynol | O leiaf 3 diwrnod gwaith (72 awr cyn dyddiad cau’r cyllidwyr) |
Efallai na fydd IRIS yn gallu cyflawni’r holl wasanaethau a restrir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth o fewn amserlen fyrrach. Os na all y Prif Ymchwilydd fodloni amserlen y broses, bydd y cyn-dyfarnu’n ceisio cyflwyno'r cynnig i’r noddwyr erbyn y dyddiad cau a bennwyd ond bydd llai o ddarpariaeth o ran y gwasanaethau. Bydd y cynigion a gaiff eu prosesu gan Brif Ymchwilwyr o fewn yr amserlen ddisgwyliedig yn cael blaenoriaeth dros y rhai sydd y tu allan i'r amserlen ddisgwyliedig (h.y. cyflwyniadau munud olaf). Bydd y Prif Ymchwilwyr a gadwodd at amserlen IRIS yn cael blaenoriaeth.
Mae gan y Pennaeth Ysgol perthnasol yr awdurdod i atal cais rhag cael ei gyflwyno os na fu digon o amser iddynt adolygu'r cynnig, yn enwedig lle mae cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol yn y cwestiwn. Rydym yn cynghori’r Prif Ymchwilwyr i gysylltu â Phennaeth yr Ysgol a’r Deon Ymchwil cyn gynted â phosibl i drafod y cynnig, i gael cefnogaeth a chyngor eu hacademyddion arweiniol i sicrhau bod y cynnig o’r ansawdd orau.
Manylion Datblygu a Phrosesu’r Cynnig
Disgrifio cyfrifoldebau'r tîm cyn-dyfarnu a'r Prif Ymchwilydd i wneud yn fawr o'r gwasanaeth sy’n cynnig gwerth ychwanegol.
Ewch i'r tudalennau gwe i weld y llif gwaith sy’n ymwneud â datblygu cynigion ymchwil ac adnoddau pwysig eraill. Caiff pob cais ymchwil newydd ei greu a'i reoli yn Worktribe ac mae arweiniad llawn ynglŷn â defnyddio'r system ar gael ar ein tudalennau gwe.
Maecyfraddau adennill y Costau Economaidd Llawn safonol a ddisgwylir gan y cyllidwyr ar gael ar dudalennau gwe IRIS. Gall cynlluniau penodol wyro oddi wrth y cyfraddau hynny ac mae'n ofynnol i Brif Ymchwilwyr drafod gyda'r Swyddogion Cefnogi Ymchwil ac Effaith cyn cyflwyno unrhyw gostau project gyda chydweithwyr neu gyllidwyr allanol.
Amgylchiadau Arbennig
Adennill Costau Economaidd Llawn (FEC).
Er mwyn gwarchod rhag costio annigonol ac er mwyn cael pris teg am yr ymchwil a gynigir, byddwn yn gweithio yn ôl arweiniad y cyllidwyr wrth baratoi costau. Bydd angen cymeradwyaeth fewnol ychwanegol ar bopeth sy'n gwyro oddi wrth adfer y Costau Economaidd Llawn mwyaf a ganiateir gan y cyllidwyr ac felly rhaid gweithio i amserlen grantiau cymhleth, mwy o faint ar gyfer cefnogaeth (gweler tabl 1).
Hysbysu’n gynnar ac amseroedd prosesu estynedig
Bydd angen cefnogaeth drylwyr ar geisiadau cyllidwyr aml-sefydliadol neu gymhleth mawr. Bydd angen amser paratoi helaeth ar y gwasanaeth i wneud hynny a bydd angen trafod pethau fesul achos. Mae hynny o’r pwys mwyaf os bydd gwiriadau diwydrwydd dyladwy’n dangos o bosib bod angen trwydded rheoli allforio a bod yr amser prosesu cyfartalog am hynny’n fwy na 60 diwrnod.
Os na all y brifysgol gyflwyno dim mwy na’r isafswm o geisiadau i gynllun, efallai y bydd angen prosesau i reoli’r galw, a bydd hynny’n golygu amseroedd prosesu estynedig. Mewn rhai achosion, ni fydd IRIS yn cyflwyno cystadleuaeth ledled y brifysgol i ddewis y cynigion ar gyfer cwota gosod y cyllidwyr, yn hytrach bydd yn gweithredu ar sail y cyntaf i'r felin i reoli'r galw. Mae’n bwysig cysylltu’n gynharach er mwyn i'r Prif Ymchwilydd allu sicrhau cefnogaeth strategol a mentoriaeth i’r cais.
Os yw’r cyllidwyr angen cyllid cyfatebol neu fuddsoddiad cyfalaf (ystadau ac offer) rydym yn eich cynghori i roi gwybod yn gynnar i sicrhau ein bod yn cadw at ein prosesau rheoleiddio mewnol ac allanol.
Mae telerau tendrau’n fwy rhwymol yn gontractol yn y cyfnod cyn-dyfarnu ac mae angen adolygiad gan y tîm cyfreithiol sydd hefyd yn mynnu bod y Prif Ymchwilwyr yn cysylltu â'r gwasanaeth yn gynt.
Mae’n bosibl y bydd angen asesiad diwydrwydd dyladwy manylach yn y cam cyn-dyfarnu gan ddibynnu ar y cydweithredwyr allanol sydd wedi’u cynnwys yn y cais a/neu ystyriaethau’r Ddeddf Rheoli Allforio.
Mae cyflwyniadau a wneir trwy borth y cyllidwyr ar-lein yn dibynnu ar systemau y tu allan i Fangor ac felly dylid neilltuo cymaint o amser â phosibl i gymeradwyaeth IRIS a’r cyflwyniad terfynol. Fel arfer nid yw Prif Ymchwilwyr yn cwblhau'r cyflwyniad ym mhorth y cyllidwyr. Mae hynny’n dibynnu ar gymeradwywyr IRIS yn gwneud y cyflwyniad terfynol, sy'n amodol ar y cofnodion porth ar-lein yn cyfateb i'r data yn y cofnod project perthnasol yn Worktribe.
Cynigion a gaiff eu prosesu y tu allan i amserlen ddisgwyliedig y gwasanaeth.
Efallai na fydd IRIS yn gallu cyflawni’r holl wasanaethau a restrir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth gydag amserlen fyrrach. Fel y dywedwyd eisoes, mae gan Bennaeth yr Ysgol yr awdurdod i atal cymeradwyaeth i unrhyw gyflwyniad os nad oes digon o amser i adolygu'r cynnig neu os oes pryderon eraill.
Bydd ceisiadau ôl-weithredol sydd wedi'u cyflwyno heb gofnod Worktribe neu nad ydynt wedi mynd drwy broses cymeradwyo cyflwyno cynigion y brifysgol yn cael eu hadrodd a'u monitro yn y Pwyllgor Ymchwil, a rhoddir manylion i bwyllgorau ymchwil y Coleg perthnasol. Caiff adroddiad blynyddol ei gyflwyno i Bwyllgorau Ymchwil y Brifysgol a'r Colegau a fydd yn manylu ynghylch y Prif Ymchwilwyr sy'n cyflwyno cynigion yn gyson y tu allan i linell amser prosesu IRIS.
I ddysgu mwy am ein gwasanaethau ac i gwrdd ag arbenigwyr y tîm cyn-dyfarnu gweler Tîm Cefnogi Ymchwil ac Effaith Integredig (IRIS)
neu cysylltwch â:research-support@bangor.ac.uk