Newid Eryri: Digwyddiadau Archif Cymunedol (Tregarth)
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn falch o hyrwyddo'r olaf o dri digwyddiad archifau cymunedol a drefnwyd gan ein ymchwilydd doethurol Alex Ioannou.
Sut mae Dyffryn Ogwen wedi newid?
A oes gennych eitemau teuluol neu ddogfennau hanesyddol sy'n adlewyrchu'r newid? Offer, dyddiaduron, lluniau, llyfrau, dillad, gweithiau celf, pethau cofiadwy...
Rydych chi'n rhan o stori Dyffryn Ogwen!
Dewch draw i'n digwyddiad hanes lleol yng Nghanolfan Tregarth ar nos Iau, 26ain o Fehefin i rhannu a thrafod eich eitemau, atgofion, gwybodaeth a straeon.
Gyda gweithgareddau a stondinau ar dreftadaeth, diwylliant, tirwedd ac archifau lleol.
Croeso i bawb!
