Penodi Cadeirydd Newydd ar gyfer Bwrdd Ymgynghorol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn falch iawn o gyhoeddi penodiad yr Athro Carol Tully yn Gadeirydd newydd ei Fwrdd Ymgynghorol.
Sefydlwyd Bwrdd Ymgynghorol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn 2016 ac ers hynny mae wedi chwarae rhan hanfodol wrth arwain a chefnogi datblygiad y Sefydliad, a sefydlu'r ganolfan ymchwil fel rhan barhaol o Brifysgol Bangor, ac fel presenoldeb cadarnhaol ym mywyd deallusol a diwylliannol Cymru.
Corff allanol yw'r Bwrdd Ymgynghorol sy'n cynnwys arbenigwyr ac aelodau o'r gymuned sy'n rhannu diddordeb mewn datblygu Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn endid deallusol egnïol sy'n gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas a diwylliant Cymru. Mae'r bwrdd yn cynnwys grŵp o unigolion y mae eu harbenigedd a'u sgiliau yn cyd-fynd â diddordebau Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru - yn cynnwys dealltwriaeth hanesyddol a chyfoes o ystadau a phlastai, archifau, materion gwledig a threftadaeth ddiwylliannol Cymru.
Rôl y Bwrdd yw trafod a chynghori ynghylch datblygiad hirdymor Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a chynnig syniadau a chyngor ar faterion sy'n ymwneud â'n proffil cyhoeddus, cysylltiadau â rhanddeiliaid, hunaniaeth ddeallusol a strategaethau cyllido. Mae'r Bwrdd yn cwrdd tua dwywaith y flwyddyn, gyda'r aelodau'n gweithredu fel llysgenhadon i'r ganolfan yn eu meysydd dylanwad.
Mae'r Athro Tully yn dod ag arbenigedd academaidd helaeth a rhinweddau arweinyddol i'r rôl. Daw Carol o’r Alban yn wreiddiol, ac mae wedi dod yn adnabyddus yn rhyngwladol fel ysgolhaig ym maes cyfnewid diwylliannol a llenyddol yn Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hi oedd y Prif Ymchwilydd ar y project nodedig a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Teithwyr Ewropeaidd i Gymru.
Cyn iddi ymddeol yn 2025 bu’n gwasanaethu mewn sawl rôl arweinyddol ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys fel Dirprwy Is-ganghellor (i Fyfyrwyr) o 2011-2020, Pennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern o 2005-2011 a hefyd Dirprwy Bennaeth Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mae hi wedi dal sawl rôl ymgynghorol gyda Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ac mae'n Lifreiwr i Gwmni Anrhydeddus y Brethynwyr, sydd wedi bod â phartneriaeth ddyngarol arbennig â Phrifysgol Bangor ers dros ganrif.
Wrth ymateb i'r penodiad, dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Dr Shaun Evans: “Rydw i wrth fy modd bod Carol wedi cytuno i ymuno, arwain ac ail-lunio'r Bwrdd. Mae hi'n dod â llawer iawn o arbenigedd, profiad ac egni i'r rôl, ac rydw i’n teimlo’n gyffrous iawn i weithio gyda hi i sicrhau bod Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn parhau i ffynnu a datblygu i'r genhedlaeth nesaf.”
Mae gwaith eisoes ar y gweill ar Gynllun Strategol deng mlynedd newydd cyffrous, a fydd yn arwain blaenoriaethau a gweledigaeth Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru dros y degawd nesaf.
Mae’r Athro Carol Tully yn uchelgeisiol am ddyfodol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, gan ddweud: “Rydw i wrth fy modd yn ymgymryd â'r rôl hon. Trwy Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, mae Prifysgol Bangor mewn sefyllfa unigryw i weithio gyda sefydliadau treftadaeth a chymunedau lleol i'n helpu i ddeall yn well yr effaith y mae ystadau tir wedi ei chael ar ein hamgylchedd adeiledig a’n hamgylchedd naturiol, ac ar gymdeithas a hanes Cymru yn fwy cyffredinol. Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru eisoes wedi cyflawni llawer iawn, ac, wrth gydweithio â thîm Archifau a Chasgliadau Arbennig ymroddedig y Brifysgol, rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ymhellach fel canolfan ragoriaeth.”
Mae Carol yn olynu'r Athro Robin Grove-White yn swydd Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Chwaraeodd Robin ran annatod yn sefydlu a datblygu Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a hoffai pawb sy'n gysylltiedig â'r ganolfan ymchwil ddiolch iddo am ei gyfraniad aruthrol a'i gefnogaeth barhaus.
Wrth groesawu Carol i'r rôl, dywedodd Robin: “Mae profiad a llwyddiannau’r Athro Tully yn ei gweddu'n berffaith i'r rôl hon ar ran Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, wrth iddi symud i gyfnod newydd addawol, ond hefyd heriol. Rydw i’n sicr y bydd hi'n mwynhau’r rôl cymaint ag yr ydw i fy hun wedi ei mwynhau dros y degawd diwethaf.”
Edrychwn ymlaen at rannu ein cynlluniau ar gyfer datblygu ac ymgynghori ar y Cynllun Strategol newydd dros y misoedd nesaf.