Teitl y prosiect: 'Religion, community and tenancy: Kinship structures in Ysbyty Ifan, 1851–1921'
Ymchwilydd Doethurol: Lucinda Owen
Goruchwylir gan: Dr Marc Collinson a Dr Lowri Ann Rees
Nod y prosiect ymchwil yw mapio perthnasoedd teuluol y pentref â'r eglwys/capel yn ystod y cyfnod 1851–1921. Gan ddefnyddio data cyfrifiad, cofnodion plwyf/arysgrifau ar gerrig beddau, erthyglau a phapurau newydd, deunydd archifol a holiaduron gan y gymuned leol, fel corff o ymchwil, byddaf yn archwilio'r berthynas rhwng y pentrefwyr ag Eglwys Sant Ioan a Chapel Seion. Bydd yr astudiaeth yn archwilio a oedd llinellau pleidiol yn bodoli rhwng y pentrefwyr yn dibynnu ar ble roeddent yn addoli, ac a oedd hyn yn effeithio ar gysylltiadau rhyng-deuluol. Bydd ystyriaeth hefyd i berthynas y preswylydd â pherchennog nifer o gartrefi yn Ysbyty Ifan, yr Arglwydd Penrhyn.
Yn ddiweddar, mae pentrefwyr Ysbyty Ifan wedi prynu Eglwys Sant Ioan, gyda gobeithion i'w droi'n ganolfan ymwelwyr a lle addoli aml-ffydd, ac i'w ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Mae'r prosiect ymchwil yma wedi esblygu o'r digwyddiad hwnnw. Bydd y gwaith mapio yn nodi symudiadau, strwythurau perthnasau, ac amgylchiadau newidiol y pentref yn ystod cyfnod a welodd arloesiadau mawr mewn arferion amaethyddol, gwleidyddiaeth leol a chollfeydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Byddaf yn gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr eraill o Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru sy'n mapio pentrefi eraill yn Sir Ddinbych.
Datblygiadau diweddar:
- Taith gerdded hanes boblogaidd o amgylch Ysbyty Ifan gyda'r hanesydd lleol Edmund Rees.
- Mynychu is-bwyllgorau Hafan Ifan yn rheolaidd.
- Mynychais y seminar Cofnodion Plwyf ym Mhrifysgol Warwick (ar-lein).