Fy ngwlad:

Syr John Wynn o Gwydir

Dr Meinir Moncrieffe

Teitl y prosiect: Projection and Perception: The Self-fashioning of Sir John Wynn of Gwydir

Goruchwylir gan: Dr Shaun Evans a Dr Euryn Roberts

Mae’r ymchwil hon yn archwilio dulliau cyfleu statws yn niwylliant Cymru yn y cyfnod modern cynnar trwy brofiad ac etifeddiaeth Syr John Wynn, Marchog a barwnig (1553-1627), a ddaeth yn bennaeth tŷ Gwydir yn 1580. Mae'r project yn ystyried sut y cafodd bri llinach hynafol y Wynniaid ei ddatblygu a'i hyrwyddo gyntaf i ffurfio 'hunaniaeth brand' cyn i Syr John ei hun ddod yn hynafiad hybarch.

Portread o Sir John Wynn

Ystyrir pum prif faes:

  1. Sut y bu i ysgrifennu hanes Cymru a hanes lleol gadarnhau llinach y teulu a dilysu eu cysylltiadau herodrol â theuluoedd brenhinol a hynafol Cymreig, gan angori eu tras mewn lleoliad traddodiadol a dangos dawn gosmopolitan o ysgrifennu hynafiaethol.
  2. Ehangu llinach gref trwy briodasau amlwg, gan greu cynghreiriaid dylanwadol yn lleol ac yn y llys, tra bod cyfrannau mawr yn darparu arian parod yr oedd mawr eu hangen ar yr ystad.
  3. Arddangosfa o gyfoeth a statws trwy fwyd, gwin, tecstilau a dillad moethus amlwg.
  4. Coffau’r hynafiaid trwy henebion a mawl.
  5. Cyfleu statws a grym yng Ngwydir, sef lleoliad yr ystad lle ymestynnodd Syr John y plas presennol ac adeiladu tŷ newydd gerllaw i ragori ar yr hyn a gyflawnodd ei gyndadau.

Mae'r ymchwil yn archwilio sut y cafodd gwerthoedd traddodiadol Cymreig eu cydbwyso â gofynion y llys Seisnig ac yn ystyried sut yr effeithiodd newid diwylliannol, gwleidyddol a chrefyddol ar ddulliau Syr John o hunan-ddelweddu. Adolygir hefyd ei enwogrwydd hanesyddol fel ymgyfreithiwr gormesol wrth i ohebiaeth bersonol ddatgelu ochr drugarog i'r tirfeddiannwr a'r cyfreithiwr; gan ddangos ei fregusrwydd fel gŵr a thad yn ceisio gwneud bywoliaeth yn ystod cyfnodau o ryfel, newyn a phla wrth ddod o hyd i’w le ym myd y Dadeni.

 

Newyddion Diweddaraf: 

Cwblhawyd y prosiect hwn yn 2024, a gallwch ddarllen am ei ddiweddglo yn ein blog. Ers graddio ym mis Gorffennaf 2024, mae Dr Meinir Moncrieffe wedi rhannu ei hymchwil ar erddi Castell Gwydir ym Mwletin Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, ac ar hyn o bryd mae hi'n gweithio ar lyfr am foneddigesau yng Ngogledd Cymru yn y cyfnod modern cynnar.