Stiwdio Premiwm Plws (21.50m²-23.50m²)
Mae Stiwdio Premiwm Plws (21.5m²-23.5m²) yn cynnig profiad bywiog a chyfleus ym Mhentref Y Santes Fair. Maent yn stiwdios cyfforddus gyda gwely dwbl, ystafell ymolchi breifat a chegin fach breifat. Mae pob stiwdio wedi ei dodrefnu ac yn cynnwys y cyfleusterau hanfodol.
Cymrwch Daith Rithiol o’r ystafell hon
Archwiliwch yr ystafell hon o gysur eich soffa. Am brofiad ymdrochol.
Defnyddiwch eich penwisg VR ar sgrin lawn. Defnyddiwch y saethau cyfeiriadol i edrych o gwmpas ac i chwyddo i mewn i weld mwy o fanylion. Mae’r eicon cartref yn mynd â chi’n ôl i’r pwynt cychwyn. Os oes gan y daith daith dywysedig, defnyddiwch y botwm chwarae i ddechrau.
Costau a Threuliau Ystafell - Faint fydd y gost i fyw yma?
Dychwelyd Costau & Hyd y cytundeb - 2026-27
Costau ychwanegol Dewisol - 2026-27
- Tocyn parcio blynyddol: I'w gadarnhau
- Goriad blynyddol i storfa beics gyda tho: £20
- Golchdy: £2 i olchi dillad / £1 i sychu dillad
Beth sy'n cael ei gynnwys yn y gost
Cyfleusterau Ystafell / Neuadd
Ystafell Wely
Ystafell Ymolchi
Cegin
Offer Glanhau a Domestig
Cyfleusterau yn Pentref Y Santes Fair
Pam dewis Pentref Y Santes Fair
- Gyda tua 650 o ystafelloedd, mae ei faint llai yn meithrin cymuned gartrefol.
- Cynllun wedi'i ddylunio i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i wneud ffrindiau a chymdeithasu.
- Mewn amgylchedd tawel, mae'r lleoliad distawach hwn yn ddelfrydol ar gyfer astudio a ymlacio.
- Mewn safle uchel, gyda golygfeydd ysblennydd dros y ddinas.
- Wedi'i leoli'n gyfleus yn agos at y rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol a chanol y ddinas.
- Amrywiaeth o opsiynau ystafelloedd ar gyfer gwahanol anghenion a chyllidebau.
- Mae ystafell ffitrwydd ar gael ar gyfer ymarfer corff cyfleus, a bydd gennych aelodaeth o'r gampfa/canolfan chwaraeon yn Ffriddoedd.
- Rydym yn tanysgrifio i God Llety Myfyrwyr Prifysgolion y DU, sydd wedi'i gynllunio i ddiogelu eich hawliau i lety diogel o ansawdd da.
Mae'r ystafell yma ar gael yn:
Sgwrsio gyda ni
Hygyrchedd yn ein Neuaddau
Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cyfforddus a chynhwysol ar gyfer pob myfyriwr. Mae 26 ystafell hygyrch ym Mhentref Y Santes Fair.
Mae ein neuaddau'n cynnig y nodweddion hygyrch hyn:
- Ystafelloedd llawr gwaelod gyda mynediad heb risiau
- Ystafelloedd hygyrch i gadeiriau olwyn gyda drysau awtomatig
- Ystafelloedd gwlyb gyda rheiliau cydio a chadeiriau cawod
- Llinyn galw argyfwng ar gael ar gais ym Mhentref Y Santes Fair
- Rhai ystafelloedd gwlyb wedi'u cyfarparu â thoiledau Closomat
- Oergelloedd meddyginiaeth ar gael ar gais
- Cymhorthion clyw: clustogau dirgrynol a larymau fflachiol
Cysylltwch â ni gydag unrhyw ymholiad.
Cyfleusterau Chwaraeon
Mae ystafell ffitrwydd ar gael ar ym mhentref Y Santes Fair, a bydd gennych aelodaeth hefyd o'r gampfa/canolfan chwaraeon yn Ffriddoedd.
Yn y gampfa cewch ddefnyddio:
- Melin Draed
- Peiriant Ymarfer-Traws
- Beic Unionsyth
- Peiriant Rhwyfo Concept 2
- Gwasg Coesau
- Ymestyniad/Cwrl Coes
- Gwasg Ysgwyddau
- Gwasg y Frest
- Rhwyfo Eisteddog
- Peiriant Cebl (Pulley)
Lleoliad Pentref Y Santes Fair
Mae Pentref y Santes Fair yn llai na Phentref Ffriddoedd ac wedi'i leoli mewn safle sy’n edrych dros y ddinas. Mae'n bellter cerdded o tua 5 munud o ganol y ddinas ac yn 10-15 munud ar droed o'r orsaf drenau a Phrif Adeilad Prifysgol. Mae cynllun adeiladau'r pentref yma wedi'u dylunio i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i wneud ffrindiau a chymdeithasu. Yma byddwch chi'n dod o hyd i amrywiaeth o opsiynau llety gan gynnwys ystafelloedd en-suite, ystafelloedd fforddiadwy, fflatiau stiwdio a thai tref. Mae pentref y Santes Fair yn cynnwys caffi/siop, golchfeydd ac ystafelloedd cyffredin. Mae diogelwch ar y safle 24 awr y dydd ac mae tîm o fentoriaid i'ch cynorthwyo yn ystod eich amser yma.